Ymlaen i drydedd rownd y Cwpan i ferched hoci Llanybydder!

Clwb Hoci Llanybydder yn ennill yn erbyn Prifysgol Aberystwyth.

gan Elin Calan Jones

Wedi seibiant dros yr Ŵyl, ail-gydiodd y merched yn y chwarae mewn gêm gwpan ganol wythnos yn erbyn Prifysgol Aberystwyth.

Bu’r ddau dîm yn cystadlu’n frwd am y meddiant am yr ugain munud cyntaf. Roedd pethau yn poethi a chafwyd arbedion arbennig gan y ddwy golgeidwad. Er i Lanybydder gymryd peth amser i ffeindio’u traed, cyrhaeddodd y gôl gyntaf trwy law Rhian Thomas. Mewn byr dro, dyma ergydiad arall yn croesi’r llinell, gôl i Luned Jones. Cariodd Elen Powell y bêl yn gryf i’r cylch cyn ei throsglwyddo i Rhian Thomas i’w gwneud hi’n 3-0 i Lanybydder ar yr hanner.

Dechreuodd yr ail hanner yn yr un modd. Roedd Aberystwyth yn dîm cyflym, gyda chwaraewyr medrus ynghanol-cae, oedd â’r gallu i droi llif y chwarae mewn eiliadau. Serch hynny, roedd Llanybydder yn dal i bwyso cyn manteisio ar amddiffynnwr allan o’i safle a rhoi’r bêl i gornel dde’r gôl. Hatric i Rhian Thomas! Yn fuan, dyfarnwyd cornel gosb i Lanybydder. Derbyniwyd y bêl ar ben y cylch, cyn ei throsglwyddo’n gyfrwys i Carwen Richards a ddaeth o hyd i gornel chwith y gôl. Gyda’r cloc yn tician, a’r rhan fwyaf o’r chware yn digwydd yn hanner y Brifysgol, roedd gôl arall yn anatod. Gydag ychydig funudau’n weddill, coronwyd y perfformiad â gôl berffaith gan yr asgell-wraig, Catrin Evans. Roedd yr elfen o gydweithio a gwaith tîm yn llifo drwy’r gêm, gyda’r chwaraewyr ymhob safle yn gwneud eu gwaith yn drwyadl er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth. Edrychwn ymlaen at yr her yn y rownd nesaf!

Diolchwn i Gwyneth am ddyfarnu ac i’n cefnogwyr ffyddlon. Roedd hi’n braf iawn eich cael chi yno.

Yn ôl i’r gynghrair fydd hi ddydd Sadwrn. Gêm oddi-cartref yn erbyn Abergwaun. Croeswn ein bysedd!