Ymweliad y Gweinidog Addysg ag Ysgol Bro Pedr

Daeth Mr Jeremy Miles i weld disgyblion ac athrawon yn Llambed.

gan Siwan Richards

Croesawyd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru yn gynnes gan y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau; a Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Ysgolion a Diwylliant.

Yn ystod yr ymweliad, bu Mr Miles yn gweld sut y mae disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn datblygu eu sgiliau yn y Gymraeg. Bu Mr Miles hefyd yn arsylwi gwers E-sgol lle’r oedd disgyblion Blwyddyn 12 yn astudio Mathemateg Bellach drwy’r cynllun. Yn dilyn y wers hon, cafodd staff a disgyblion gyfle i siarad â’r Gweinidog am eu profiad gyda’r prosiect E-sgol.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS: “Roedd yn wych cyfarfod disgyblion a staff Ysgol Bro Pedr, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu croeso cynnes. Roeddwn yn falch o weld yr ysgol yn mwynhau’r Cwricwlwm i Gymru, ac i glywed brwdfrydedd disgyblion yn dysgu cyrsiau trwy E-sgol.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas: “Roedd yn bleser bod yn rhan o’r ymweliad hwn yn Ysgol Bro Pedr. Roedd hyn yn gyfle gwych i ddisgyblion ofyn cwestiynau a thrafod eu syniadau gyda’r Gweinidog. Roedd hefyd yn fuddiol i’r Gweinidog gallu eistedd mewn ar ddosbarthiadau amrywiol i weld datblygiad sgiliau Cymraeg y disgyblion.”

Dywed Jane Wyn, Pennaeth Ysgol Bro Pedr: “Roedd yn hyfryd i’r disgyblion a’r staff gael cyfle i gwrdd â Mr Jeremy Miles a thrafod y gwaith y maent yn ei wneud yn Ysgol Bro Pedr.”

Hefyd yn bresennol oedd Pennaeth Ysgol Bro Pedr, Jane Wyn; Llinos Jones, Athrawes Cefnogi’r Gymraeg a Llifon Ellis, Pennaeth Strategol E-sgol.