Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Mae’r gwesty yng nghanol Llanbed wedi bod ynghau am flynyddoedd bellach ond mae sibrydion wedi bod ers amser am ei ail-ddyfodiad i’r Stryd Fawr.
Ar Facebook heddiw, cafwyd cadarnhad y bydd yr adeilad yn cael ei adfer i westy a thafarn.
Bydd y llawr gwaelod yn cael ei adfer nôl i dafarn ac uwchben fydd yna ddau ‘Air Bnb’.
“Methu aros i drawsnewid yr adeilad eiconig”
Medd y cwmni ‘Hayes Heating and Homes wnaeth ryddhau post ar Facebook eu bod yn gyffrous i agor i’r cyhoedd wrth iddynt ddechrau ar y gwaith adeiladu.