Canfod swyddog Heddlu yn ddieuog o ymosodiad rhywiol

Mae Llys y Goron Abertawe wedi canfod DC Sam Garside yn ddieuog o ymosodiad rhywiol.

gan Ifan Meredith
IMG_2261GOOGLE

Mae DC Sam Garside, swyddog Heddlu yn Llanbed wedi ei gael yn ddieuog o ymosodiad rhyw yn Llys y Goron Abertawe heddiw.

Cafodd DC Sam Garside ei wahardd o’r gwaith ym mis Gorffennaf 2023 ar ôl adroddiadau ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar ddynes ym mis Rhagfyr 2021.

Gwrthododd DC Sam Garside y cyhuddiadau a chafodd yr achos ei gynnal yr wythnos hon.

“cyhuddiad difrifol”

Mewn datganiad, dywedodd DCC Ifan Charles fod y cyhuddiad wedi ei wneud yn erbyn unigolyn oedd â “swydd i ddiogelu trigolion Dyfed-Powys”.

“Bydd y llu nawr yn ystyried os oes angen gweithredu ffurfiol o bersbectif camymddygiad swyddog heddlu”

Esboniwyd na fydd yr ystyriaeth fewnol yma yn gysylltiedig o gwbl â’r ymchwiliad troseddol.

Dweud eich dweud