Carol Cerdd a Chân cofiadwy 2024

Rhoddion o dros £1,000 i Gymorth Cristnogol

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_3569

Y gynulleidfa yn Eglwys San Pedr

IMG_3570

Côr Merched Corisma

IMG_3587

Kees Huysmans

IMG_3714

Ela Mablen a Nanw Melangell Griffiths-Jones

IMG_3598

Côr Plant Ysgol Y Dderi, Llangybi

IMG_3602

Cadi Aur o Ysgol Y Dderi, Llangybi

IMG_3622-1

Aled Wyn Thomas

IMG_3627

Kees Huysmans a Deiniol Williams

IMG_3643

Côr Llefaru Sarn Helen

IMG_3711

Sara Lewis a Bethan Llewellyn

IMG_3659

Côr Merched Corisma a Helen Williams yn chwarae’r ffidil

Diolch o galon i bawb ddaeth i Eglwys San Pedr, Llanbed nos Wener 13 Rhagfyr i gefnogi Carol, Cerdd a Chân a chodi cyfanswm anrhydeddus iawn tuag at waith Cymorth Cristnogol.

Trefnir y noson arbennig hon gan Bwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbedr Pont Steffan a’r Cylch tan gadeiryddiaeth Twynog Davies. Diolch yn fawr eto eleni yn arbennig i Janet Evans, aelod o’r pwyllgor, am ymgymryd â’r gwaith o drefnu’r noson flynyddol hon. Mae’n achlysur sy’n rhan annatod o Galendr Nadolig Llanbed ers ymhell dros ddeng mlynedd ar hugain. Bu’r wledd eleni yn gyfle arall i fwynhau cymaint o dalentau lleol a dathlu eu llwyddiant yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae yna ddywediad i gael ‘chwart mewn pot peint’ (chwart yw pedwar peint) a dyna hanes Carol, Cerdd a Chân 2024! Cafwyd dros awr a hanner o adloniant o’r safon uchaf yn ganu gan Gôr Merched Corisma tan arweiniad Carys Lewis; Kees Huysmans; Ela Mablen a Nanw Melangell Griffiths-Jones (Aelwyd ac Adran yr Urdd); Côr Plant a Cadi Aur o Ysgol Y Dderi tan arweiniad Lillian Jones; Aled Wyn Thomas; Kees Huysmans a Deiniol Williams; a Sara Lewis a Bethan Llewellyn (Aelwyd ac Adran yr Urdd). Diolch yn fawr iddynt ac i’w cyfeilyddion ac yn arbennig Elonwy Pugh Huysmans am chwarae’r organ yn y canu cynulleidfaol.

Yr un mor bwysig fu cyfraniad y llefarwyr i lwyddiant y noson gan ddiolch yn fawr i Côr Llefaru Sarn Helen tan arweiniad Elin Williams; i Shân Jones a Sandra Jones am y darlleniadau o’r Ysgrythur; a Myfyrwyr Chweched Dosbarth Ysgol Bro Pedr, Betrys Dafydd, Harri Evans, Erin Morgan a Tomos Lloyd-Jones am gyflwyno’r carolau cynulleidfaol.

Ficer Eglwys San Pedr, y Parchedig Melanie Prince, groesawodd pawb a chyflwyno’r Weddi agoriadol. Ficer Cynorthwyol yr Eglwys, y Parchedig Victoria Hackett, gyflwynodd y Fendith wnaeth gloi noson arbennig dros ben. Diolch yn fawr i Eglwys San Pedr am eu croeso cynnes.

Elaine Davies, Ysgrifennydd gweithgar Pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbed a’r Cylch, gyflwynodd y diolchiadau ar ran Twynog Davies a’r Pwyllgor. Diolchodd yn ddiffuant i bawb am bob cyfraniad, yn eitemau, yn rhoddion, i swyddogion Eglwys San Pedr, i’r Pwyllgor ac yn benodol i Janet Evans am lwyddo eto eleni i drefnu noson mor fendithiol.

Mwynhewch y ffilm o rhai o’r uchafbwyntiau o’r noson. Dewiswch y ddolen isod i wylio’r ffilm. Diolch yn fawr i Ifan Meredith am olygu’r holl glipiau a chynhyrchu’r ffilm.