Daeth criw CFfI Llanddewi Brefi ynghyd i ddiolch i’r staff yn yr orsaf am eu gwaith arbennig pan bu pedair o ferched sy’n aelodau ffyddlon o’r clwb mewn damwain difrifol.
Mae’r merched, ynghyd a’u teuluoedd, ffrindiau ac aelodau’r Clwb, yn nodi faint mor bwysig yw cefnogi sefydliadau fel y Frigâd Dân ac elusennau lleol. Does neb yn gwybod pryd fydd angen yr help.
Dywedodd Rhodri Evans, un o Arweinyddion CFfI Llanddewi Brefi, “Yn sgil y ddamwain a ddigwyddodd ychydig o fisoedd yn ôl, daeth yn amlwg pa mor bwysig yw’r Gwasanaethau Tân yng nghefn gwlad.
Ar noson y ddamwain, roedd cael wynebau cyfarwydd swyddogion Gorsaf Dân Llanbed yno i helpu a chefnogi’r merched yn amhrisiadwy. Fel Clwb rydym yn hynod o ddiolchgar ac yn ffodus iawn i gael gwasanaeth lleol gyda gweithwyr brwdfrydig a phrofiadol yng Ngorsaf Dân Llanbed. Mae’r gwasanaeth a’r gofal y mae’r swyddogion llawn amser ac ar alw yn ei roi i’r gymuned yn hynod o werthfawr. Diolch iddynt am eu gwaith arbennig.
Roedd y swm o arian a godwyd ynghyd a’r nifer o aelodau, arweinyddion a rhieni a ddaeth i ymweld â’r orsaf yn dyst o’n gwerthfawrogiad i’r swyddogion a’r ddarpariaeth.”
Daeth staff Gorsaf Dân Llanbed ac aelodau a ffrindiau CFfI Llanddewi ynghyd ar nos Iau, 09 Mai 2024. Cafwyd noson i ddod i ddeall mwy am waith y Frigâd Dân ac hefyd trosglwyddo rhodd ariannol i’r staff er diolch a gwerthfawrogiad am eu help adeg y ddamwain. Cododd y Clwb yr arian trwy Ganu Carolau.
Hoffai’r merched ddiolch i bawb am yr holl gefnogaeth yn y cyfnod anodd yn dilyn y ddamwain.