Mae’r ’Dolig ’di dechrau yn Llanbed heddiw

Bwrlwm Marchnad Nadolig y dref a’r brifysgol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_3174
IMG_3171
IMG_3177
IMG_3178
IMG_3180
IMG_3182
IMG_3183
IMG_3184
IMG_3185

Mae awyrgylch Nadoligaidd hyfryd yn Llanbed heddiw gyda Marchnad Nadolig y Dref a’r Brifysgol yn hen adeilad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Dechreuodd y cyfan gyda Chôr Meibion Cwmann a’r cylch yn canu carolau yng Nghapel y Brifysgol.  Mae bwyd a diod cynnes ar gael yno ynghyd ag amrywiaeth o stondinau yn gwerthu bob math o nwyddau fel anrhegion dymunol.

Bydd y cyfan yn parhau tan chwech o’r gloch gyda Groto Sion Corn ar gyfer y plant yn Neuadd Fictoria rhwng 3 a 5 o’r gloch.  Cofiwch alw draw.  Gallwch alw yn siopau’r dref i wneud eich siopa hefyd.

Oherwydd y tywydd garw, ni chynhelir y digwyddiad i gynnau goleuadau Nadolig y dref.

Dweud eich dweud