Effaith Storm Darragh ar yr ardal

Cyflwynwch luniau a gwybodaeth o’r hyn sy’n drafferthus wedi’r gwynt mawr

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_3260-1

Llun gan Heiddwen Tomos.

Neges gan Heiddwen Tomos,

“Dŵr dwfwn ar y ffordd – Cwmann i Lanbed o Bencarreg. Osgowch. Ceir ddim yn gallu mynd trwyddo.”

11:09

Mae Cyngor Sir Gâr bore ’ma wedi bod yn gweithio i glirio 56 coeden sydd wedi syrthio yn y sir gan achosi tagfeydd traffig. Maent wedi datgan eu bod yn blaenoriaethu fyrdd A a B.

Mae’r ffyrdd canlynol ar gau oherwydd amodau anniogel:

C3236 Llandowror

C2043 Cynwyl i TevaughanHeol Bolahaul, Caerfyrddin

Mae Ffordd Gyswllt Cross Hands yn agored i lôn sengl oherwydd coeden fawr sy’n achosi rhwystr. Mae criwiau yn ymwybodol ac yn delio â hyn.

Mae’r awdurdodau yn annog trigolion i’w hysbysebu am unrhyw goed sydd wedi gwympo ar yr heolydd.

11:06

Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi rhybudd llifogydd i ranau’r Afon Teifi ym Mhontrhydfendigaid a Llanbed. 

Cyngor Sir Ceredigion:

“Disgwylir llifogydd i eiddo wrth ymyl ac i’r gogledd o Afon Teifi ym Mhontrhydfendigaid, gan gynnwys Stryd y Bont. Hefyd, i eiddo yn ffinio ac i’r gogledd o Afon Teifi yn Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys yr archfarchnad a’r ganolfan hamdden”

11:01

Pob gêm rygbi a phêl-droed wedi canslo heddiw.

11:00

Dim trydan yn ardal Llangybi.