Cynigiwyd cyfle i aelodau Eglwys San Pedr, Llanybydder a’r gymuned ehangach i ddweud “Diolch” yn ystod y Gwasanaeth Diolchgarwch a gynhaliwyd ar Nos Sul y 29ain o Fedi 2024, yn yr Eglwys.
Mynegwyd hyn yn bennaf, drwy gân. Llwyddodd Côr Meibion Caerfyrddin (Cadeirydd: Haydn Lloyd) swyno’r gynulleidfa wrth ymroi i ystod eang o ganeuon dan gyfarwyddyd eu harweinydd ysbrydioledig, y Parchedig Wyn Maskell, a ddaeth â’r gerddoriaeth yn fyw a dwyster cysylltiad â’r gynulleidfa’n amlwg. Tywysodd y gyfeilyddes, Heather Williams, y dyrfa i arall-fyd, gan arddangos deinameg wych (gyda chymorth Sylvia Thomas).
Ymysg y caneuon oedd:
I Bob un sydd yn ffyddlon: y gân gyntaf i’w chanu gan y Côr, dechreuad cryf a phendant.
Dwy Law yn Erfyn: Emyn adnabyddus Thomas Rowland Hughes (1903-49) wedi’i chanu’n deimladwy ac yn deyrnged i un o aelodau’r côr a oedd, yn drist, wedi marw’n ddiweddar.
Un o ffefrynnau’r gynulleidfa.
O Gwalia! – O Gymru! Wedi’i chanu ag angerdd.
Canu cynulleidfaol o’r Llyfr Emynau Caneuon Ffydd
130- Pob Peth, ymhell ac agos
847- Am Dy ddirgel ymgnawdoliad, diolch i Ti (Tôn – Ar Hyd y Nos)
Daeth yr Hybarch Eileen Davies ymlaen i arwain holl yn bresennol, mewn gweddi gan bwysleisio’r pwysigrwydd o ddweud diolch, yn enwedig yn ystod amser y cynhaeaf pan allwn ddiolch i Dduw am yr holl bobl sy’n paratoi ein bwyd.
Hefyd i estyn allan i’r llai ffodus sy’n dioddef ac yn newynog.
Cofiwyd am bawb ynghlwm â’r gwrthdaro’r Dwyrain Canol. Hefyd y rhai a fydd yn colli eu swyddi o ganlyniad i’r ffwrnais ddur chwyth olaf ddiffodd yng ngweithfeydd Tata, Port Talbot ar y 30.09.2024 gan ddod â’r dull traddodiadol o wneud dur yn ne Cymru i ben.
Darllenwyd o’r Gair gan Heather Jones ac Avril Jones.
Mwynhawyd y lluniaeth ysgafn, wedi’r gyngerdd, gan aelodau’r Côr cyn iddynt gofleidio’r tywydd garw unwaith eto, ar eu taith yn ôl i Gaerfyrddin.
Addurnwyd yr Eglwys yn chwaethus ar gyfer y cynhaeaf (gweler y lluniau) a chasglwyd nwyddau ar gyfer Banc Bwyd Llanbedr Pont Steffan.
Noson gofiadwy, yn sicr. Llwyddodd y canu bendigedig, addurniadau’r eglwys a’r canhwyllau, y fynedfa drwy’r fynwent daclus a’r croeso cynnes, greu naws unigryw ac yn gyfle arbennig i ddiolch i Dduw am ffrwyth Ei greadigaeth ac am Ei gariad sy’n dragywydd.
“A phan ddaw’r bore, a’r wawr yn ole
Wrth ymyl fy ngwely i,
Mae’r weddi o hyd yn fiwsig i gyd
Mi wn er na chlywaf i.”
Diolch i bawb a oedd wedi helpu mewn unrhyw ffordd. Gwerthfawrogwyd hyn yn enfawr.
Elw er budd Eglwys San Pedr Llanybydder.