Daeth y cysair a’r eira yn drwch mewn ardaloedd bore ma gan achosi anrhefn i lawer.
Cafwyd adroddiadau am ddamweiniau ffordd niferus, a rhai o’r rhei’ny ar dro Cefnresgair Cwmann, yn Llanwnnen, Pencarreg a Llanllwni.
Roedd yr hewl o Bentop, Llanllwni i gyfeiriad Caerfyrddin ar gau yn llwyr oherwydd trwch yr eira ar y ffordd gyda cherbydau wedi eu dargyfeirio yn boenus o araf drwy Llanfihangel a Phencader.
Meddai un teithiwr a fu yn sownd mewn eira a rhew ar y ffordd heddiw,
“Roedd yn deimlad annifyr ofnadwy yn methu neud dim wrth fod yn sownd yn yr eira.”
Mae’r cwestiwn yn codi, a fu’r cynghorau yn graeanu’r ffyrdd? Oes digon o adnoddau gyda nhw’r dyddiau hyn i ymdopi â thywydd eithafol?
Bu Jessica Kendell yn sownd ar y ffordd i Lanwenog am bron i 4 awr gyda phlentyn 8 oed a 10 mis oed yn y car. Llwyddodd i symud wedi ffarmwr ddod yn ei dractor i glyrio’r holl eira!
Amharwyd ar y gwasanaeth bysus gan gynnwys bysus ysgol. Cyhoeddodd Meddygfa Pro Pedr y byddai eu gwasanaethau heddiw wedi eu cyfyngu oherwydd staffio.
Yn sgil y tywydd garw, mae ambell ddigwyddiad ac ymarferion wedi eu canslo prynhawn ma a heno.