Gwasanaeth Carolau Dan Olau Cannwyll

6 Rhagfyr am 7 yn Eglwys Efengylaidd Llanbed

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_3198

Poster Gwasanaeth Carolau Dan Olau Cannwyll Eglwys Efengylaidd Llanbed nos Wener 6 Rhagfyr am 7.00 o’r gloch

IMG_3136

Coed Nadolig lliwgar Yr Hedyn Mwstard ac Eglwys Efengylaidd Llanbed

IMG_3129

Eglwys Efengylaidd Llanbed – tu mewn i’r eglwys drawiadol fodern

Mae Llanbed yn llawn bwrlwm y Nadolig hwn yn oleuadau a choed Nadolig a’r holl ffenestri wedi eu haddurno’n Nadoligaidd. Mae’r Hedyn Mwstard wedi ei haddurno gyda choed Nadolig wedi eu goleuo ac yno yn Eglwys Efengylaidd Llanbed y cynhelir y Gwasanaeth Carolau Dan Olau Cannwyll nos Wener, 6 Rhagfyr am 7.00 o’r gloch.

Mae canu carolau yn rhan annatod o’r paratoi ar gyfer y Nadolig a dathlu genedigaeth Iesu Grist i’n byd. Cynhelir y Gwasanaeth Carolau Dan Olau Cannwyll tan ofal y Parch. Robert Thomas, Llandrindod. Y mae’n enedigol o Landdowror a bu’n Weinidog yn ardal Llanelli am gyfnod. Mae’n gyfarwydd â chynnal oedfaon yn Eglwys Efengylaidd Llanbed ac mae llawer yn edrych ymlaen at glywed ei neges a chanu carolau.

Darperir lluniaeth ysgafn wedi’r gwasanaeth fydd yn gyfle i bawb cymdeithasu, i fyfyrio ar neges Robert Thomas a’r Nadolig a rhoi’r byd yn ei le! Cewch mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ac am Eglwys Efengylaidd Llanbed (16 Stryd y Coleg, Llanbed) ar eu gwefan:

www.lampeterevangelicalchurch.org

Croeso cynnes i bawb ymuno yn Eglwys Efengylaidd Llanbed am 7.00 nos Wener 6 Rhagfyr i ganu carolau ac i rannu’r Newyddion Da.

‘Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd.’ (Luc 2:11)