Gwasanaeth Goronwy’n codi cannoedd

Codi £340 tuag at elusen Plant Mewn angen mewn gwasanaeth coffa.

Undodiaid Aeron Teifi
gan Undodiaid Aeron Teifi
unnamed-2Dylan Lewis

Mae gwasanaeth i gofio’r diweddar Goronwy Evans wedi codi £340 at yr elusen yr oedd wedi ei chefnogi ers blynyddoedd – Plant Mewn Angen.

Roedd y llawr yng Nghapel Caeronnen, Cellan, yn llawn dop ar gyfer y gwasanaeth ddiwedd Medi, wedi ei drefnu gan Gapeli Undodaidd Aeron Teifi.

Roedd aelodau o’r capeli’n cymryd rhan, yn ogystal ag aelodau o Gapel Brondeifi – gan gynnwys Llywydd Cymdeithas Undodiaid Deheudir Cymru, Heini Thomas – a mab Goronwy, Ioan Wyn, ac un o’i wyrion, Gruffudd.

Roedd y gwasanaeth yn cynnwys rhai o hoff ddarnau ac emynau Goronwy yn ogystal ag ambell ddyfyniad o rai o’i lyfrau ef ei hun.

Gweddw Goronwy, Beti, oedd wedi dewis amryw o’r darnau ac roedd hi yn y gynulleidfa, ynghyd â’u mab arall, Rhidian, a’r ddau deulu.

Arweiniwyd y gwasanaeth gan Dylan Iorwerth. Y cyfeilydd oedd Eirian Jones ac fe ganodd hi hefyd emyn o’i gwaith ei hun, gyda geiriau gan y diweddar Dai Rees Davies oedd yn arfer rhannu desg gyda Goronwy yn Ysgol Llanwenog.

Roedd Goronwy a Beti wedi helpu i godi mwy na £1 miliwn tuag at elusen Plant Mewn Angen yn ardal Llanbed.