Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Ddoe adunwyd Haydn Richards o Lanwnen (yn y llun ar y chwith) ag injan a werthodd flynyddoedd yn ôl i’r diweddar Ron Hughes Sangini yn y 90au cynnar. Ailwerthodd Ron yr injan i Andy Doncaster o Sir Benfro yn 2017 a lwyddodd i redeg yr injan ar ôl ailadeiladu maith a gwneud rhai darnau ar gyfer yr injan.
Mae’r injan Corbett Williams prin hon a adeiladwyd yng Nghymru yn Rhyddlan Gogledd Cymru yn un yn unig o’r ddwy injan sydd ar ôl. Dyma’r ail un a adeiladwyd tua 1910 gyda rhif injan 002.
Prynodd Andy yr injan yn arbennig ar gyfer Sioe Talgarreg er mwyn i Haydn allu gweld yr injan yn gweithio o’r diwedd. Prynodd ei dadcu – Samuel Richards yr injan yn newydd tua 1910-1915 ar gyfer Fferm Lowtre.