Ydych chi’n poeni am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llanbed? Ddoe lansiwyd holiadur ar lein gan Faer y Dref sef y Cyng Gabrielle Davies.
Dywedodd PC 611 Liz Jenkins o dîm Plismona Bro Heddlu Dyfed Powys,
“Ers gweld cynnydd yn y nifer o alwadau (sy’n seiliedig ar ymddygiad gwrth-gymdeithasol) yn y dre ers mis Medi, dw i ’di creu’r holiadur gan fawr obeitho y bydd preswylwyr, busnesau a phobl sy’n ymweld â’r dre yn fodlon cymryd rhyw ddwy funud i ateb cwpl o gwestiynau er mwyn casglu teimladau’r gymuned ynghlyn â’r sefyllfa.”
Ychwanegodd PC Jenkins,
“Dw i’n gofyn i bobl rhannu’r ddolen gyda theulu, ffrindiau, cwsmeriaid, a hefyd cwblhau’r holiadur ar ran y rhai sydd yn methu ei wneud eu hunain.”
Croeso i bobl gysylltu â PC Jenkins yng Ngorsaf yr Heddlu yn Llanbed ynghlyn â’r holiadur.
Esboniodd PC Jenkins,
“Bydd y wybodaeth a dderbynnir trwy’r holidaduron yn cael ei rhoi at ei gilydd a wedyn byddwn yn mynd ati mewn ffordd datrys problemau er mwyn ceisio gwella’r sefyllfa yn y pen draw.”
Gallwch fynd i’r holiadur drwy sganio’r côd QR ar y poster uchod neu ddilyn y ddolen hon.