gan
Ifan Meredith
Cyhoeddodd yr Heddlu toc ar ôl 16:30 y prynhawn ’ma (18.12.24) fod heol y B4337 rhwng Alltyblaca a Llanwnnen ar gau yn dilyn gwrthdrawiad.
Mae Traws Cymru wedi cadarnhau fod bws y T1 yn cael ei ddargyfeirio drwy Gwmann am y tro.
“Osgowch yr ardal”
Mae’r Heddlu yn annog teithwyr i ddod o hyd i ffyrdd eraill ar gyfer eu taith.