Mae llawer o achwyn ymhlith trigolion lleol wedi i faes parcio’r Sainsbury’s gael ei ail darmacio. Does dim lle parcio penodol i rieni a phlentyn yno bellach.
Mae’r ffaith bod y maes parcio wedi ei ail darmacio i’w groesawu wrthgwrs. Roedd cyflwr y maes parcio wedi mynd yn wael iawn cyn hynny.
Ond lle’r oedd tri lle parcio penodol i rieni a phlentyn, does dim un yno wedi iddyn nhw osod tarmac newydd ac ail baentio’r llefydd parcio.
Mae cael lle i rieni a phlentyn i barcio yn bwysig. Cafwyd un sylwad fel hyn ar facebook,
“Weithiau doedd dim lle parcio i rieni a phlant ar gael felly dwi wedi parcio mewn man arferol yn Sainsburys. Wrth ddod mas roedd rhywun wedi parcio modfeddi i ffwrdd o’r drws wedi fy rhwystro rhag cael sedd car fy mabi yn ôl i mewn!”
Mae sawl lle penodol ar gyfer deiliaid bathodyn glas yno diolch byth, ond y pryder yw bod gwaredu llefydd parcio i rieni a phlentyn yn rhwystr arall i siopwyr ac yn mynd i leihau nifer o bobl rhag siopa yn Llanbed.
Gofynnwyd i’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan am wybodaeth,
“Yn ôl pob tebyg Sainsbury’s oedd wedi rhoi mannau parcio penodol i Rieni a Phlant ac nid ydynt yn y cynllun gan y Cyngor Sir. Does dim lleoedd parcio rhieni a phlant ar feysydd parcio’r cyngor sir. Maes parcio’r cyngor yw e er fod Sainsbury’s yn ad-dalu siopwyr.
Mae swyddogion y cyngor wedi nodi’r sylw!”