Mae perchnogion tir lleol ar hyd llwybr peilonau arfaethedig Prosiect Towy Teifi wedi derbyn llythyron yn ddiweddar yn gofyn iddynt lenwi holiadur er mwyn rhoi caniatad i weithwyr gynnal arolwg tir.
Dyma ddechrau ar y broses o godi peilonau o Lanfair Clydogau i Gaerfyrddin a fydd yn effeithio ardaloedd Llanfair Clydogau, Cellan, Cwmann, Parc-y-rhos , Llanybydder a Llanllwni.
Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus i drafod yn cynllun yn:
Neuadd Eglwys Llanllwni ar Chwefror 7fed
Neuadd Mileniwm Cellan ar Chwefror 22ain
Aberduar, Llanybydder ar Chwefror 23ain
Yn y cyfamser y bwriad gan lawer yw peidio llenwi’r holiadur a gwrthod mynediad i weithwyr ar eu tir.
Gwelwyd negeseuon ar wefannau cymdeithasol gyda phreswylwyr a pherchnogion eiddo a pherchnogion tir wedi eu cythruddo gan y llythyron hyn, a wedi eu siomi’n ddirfawr o ddeall bod bwriad adeiladu peilonau ar eu tir ac yn agos i’w cartrefi. Gwelwyd negeseuon o gydymdeimlad hefyd.
Dywedodd y Cyng Eryl Evans,
“Rwy’n hapus i godi hyn gydag adran gynllunio CSC. Byddwn hefyd yn cynghori pobl i beidio ag arwyddo unrhyw beth oni bai eich bod yn dymuno.”
Mae cwmni Carter Jones yn gweithredu fel asiantwyr tir ar ran Green GEN Cymru ac fe honnir yn y llythyr y gallai’r prosiect hwn gyfrannu tuag at darged Llywordaeth Cymru er mwyn cyflawni trydan adnewyddadwy o 100% erbyn 2035. Gofynnir am adborth a barn ynglyn â’r cynigion a bwriedir trefnu arolwg amgylcheddol ar droed heb fod yn ymwthgar.