gan
Ifan Meredith
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ystyried adleoli cyrsiau Dyniaethol o gampws Llanbed i’w campws yng Nghaerfyrddin wrth ymateb i ddiffyg o £11m yn ei chyllideb.
Bu trafodaethau dros yr wythnosau diwethaf a chynhaliwyd protest bore ’ma gan Gymdeithas Llanbed (un o gymdeithasau’r brifysgol). Mae disgwyl penderfyniad am ddyfodol cyrsiau ar gampws Llanbed yn gynnar yn 2025.