Fel un brif gast ‘Grease’ yn yr ysgol dwy flynedd nôl, roedden i’n awyddus i ddod nôl i wylio sioe Teulu’r Addams eleni gan fy mod i wedi joio mas draw pan wnes i berfformio ar yr un llwyfan yn 2022. Roedd y sioe yn sicr werth ei gweld eleni eto! Roedd yr ymroddiad a’r angerdd yn amlwg ar y llwyfan gan bob un disgybl, roedden i wir yn gallu teimlo mwynhad pawb ar y llwyfan trwy’r holl ganu a dawnsio.
Mae cynhyrchiad Teulu’r Addams efallai yn un anghyfarwydd ond yn un hynod, sydd yn dechrau ym mynwent y teulu ac yn dilyn ymgais merch Gomez a Morticia, Wednesday i briodi bachgen ‘arferol’, Lucas. Ond nid yw Pugsley yn hapus ac mae ef yn trio newid meddyliau Wednesday gyda diod dirgelus Mamgu ond yn hytrach, mam Lucas, Alice sydd yn ei gymryd yn ystod swper teuluol. Ond diwedd hapus a fu gyda Wednesday a Lucas nôl gyda’i gilydd yn y pendraw a phawb yn hapus!
Yn amlwg, mae rhaid gwneud sylw am dalent y prif gast. Roedd hi wir yn fraint cael gwylio’r prif gast yn arddangos eu talentau ar y llwyfan! Roedd canu’r prif gast yn anhygoel- cefais fy rhyfeddu gyda’r hyn profais wrth wylio ac roedd yn anodd credu mai plant ysgol oedden nhw i gyd. Hefyd, roedd hi’n braf cael gweld disgyblion iau yn rhan o’r prif gast. Gobeithio gallwn eu gweld ar y llwyfan eto yn y cynhyrchiad nesaf.
Er fy mod i ddim yn gyfarwydd iawn â’r cynhyrchiad yma, gwnaeth y prif gast chwarae cymeriadau diddorol teulu’r Addams yn arbennig o dda, a gwnaethon nhw ddod â nhw’n fyw ar lwyfan gyda phersonoliaethau eu hunain. Rhaid canmol Trystan a Brychan ar berfformiadau rhagorol wrth iddynt dreiddio i ganol eu cymeriadau, Gomez a Fester.
Ac wrth gwrs, mae rhaid cymeradwyo gwaith y corws trwy gydol y perfformiad. Hebddyn nhw, ni fyddai’r un awyrgylch i’r cynhyrchiad. Roedden i hefyd yn hoff iawn o’r gwisgoedd du a gwyn. Roedd hyn yn effeithiol iawn i bwysleisio naws iasol y cynhyrchiad.
Roedd yr oriau o ymarferion yn amlwg gan fod pob un aelod o’r corws yn canu ac yn dawnsio gydag angerdd ac wedi gallu llenwi’r llwyfan i gefnogi’r prif gast yn ystod eu caneuon. Roedd yn werth gwylio pawb ar y llwyfan yn mwynhau a chefnogi ei gilydd.
Roedd hi hefyd yn braf cael gweld dawnswyr hynod o dalentog a phroffesiynnol yn cael rhan eu hun yn y sioe- roedd hi’n ffordd wych i arddangos yr amrywiaeth o dalent sydd yn amlwg yn Ysgol Bro Pedr a’r ardal leol.
Roedd y band yn wych a synnais wrth glywed fod rhai o aelodau’r band yn ddisgyblion ysgol hefyd, doedden i ddim yn gallu deall sut oedden nhw’n gallu cadw lan gyda’r holl ganeuon; roedd e wir yn rhyfeddol. Yn wir, gwnaeth yr ysgol lwyddo i ddangos holl dalentau’r disgyblion.
Mae rhaid dweud, roedd cynhyrchiad Ysgol Bro Pedr o Deulu’r Addams yn un i’w gofio. Roedden i wir wedi rhyfeddu gydag ansawdd yr holl berfformio a dylai pob un aelod o’r cast fod yn falch iawn o’u hun am roi perfformiad hollol wych. Roedd yr holl dalent yn amlwg wrth wylio’r perfformiad a dwi’n gobeithio’n fawr bydd sioe arall yn y dyfodol.