Tywysydd Ifanc buddugol Gwledydd Prydain

Elliw Grug Davies, o Drefach yn ennill yn Barnsley yn Ne Swydd Efrog heddiw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
2D786A2C-F974-4374-8873
83CEF039-394B-43CA-AC35

Cafodd Elliw Grug Davies, o Drefach ei henwebu i gystadleuaeth British Farming Awards ‘UK Young Handler of the Year’ Farmers Guardian.

Mae Elliw ers yn ferch fach yn mwynhau ar y fferm gyda’r anifeiliaid.Mae wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ennill sawl cystadleuaeth yn lleol, yng Nghymru a Lloegr i dywys gwartheg a defaid.

Cyrhaeddodd Elliw Grug y rhestr fer o dri. Bu rhaid i Elliw a’i theulu fynd i Barnsley yn Ne Swydd Efrog ddiwedd mis Awst.

Heddiw, mewn Seremoni ar fferm Canon Hall mi gyhoeddwyd mai Elliw Grug Davies, Drefach oedd yr enillydd. Llongyfarchiadau gwresog i ti Elliw. Enillodd Elliw Dlws gwydr.

Meddai Elliw “Mae’n anrhydedd i ennill cystadlaeuaeth yma ar lefel Prydain.”

Noddwyd y gystadleuaeth gan Harpers Feeds a Massey Feeds.

Merch 10 oed yw Elliw ac yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Cledlyn, Drefach.

Mae Elliw yn wyneb cyfarwydd gyda Phapur Bro Clonc, gan ei bod yn dod i blygu’r papur yn fisol hefyd. Dydd Llun, bu’n cystadlu yn Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen a hefyd yn dawnsio gyda Ysgol Dyffryn Cledlyn yn y seremoniau.

Dweud eich dweud