Wythnos Codi Ymwybyddiaeth am y Draenog 5-11 Mai 2024
Mae’r draenog bellach wedi dihuno o’i aeafgwsg.
Un Ffaith am y Draenog:
Oeddech chi’n gwybod y gall y draenog eich helpu yn eich ymgais i dyfu llysiau o’r ansawdd uchaf yn eich gardd neu’ch rhandir?
Mae llawer sy’n poeni am yr amgylchedd yn amharod i ddefnyddio plaladdwyr. Mae’r effaith ar fywyd gwyllt yn ddinistriol gan nad yw plaladdwyr yn lladd plâu yn unig, maent hefyd yn gwenwyno anifeiliaid diniwed. Erys rhai plaladdwyr yn y gadwyn fwyd a’r effaith hirdymor heb fod yn hysbys.
Beth am geisio annog plaladdwyr naturiol i’ch gardd yn lle defnyddio cemegau niweidiol?
Gall y draenog gostyngedig eich helpu. Mae’n wych am gael gwared ar blâu gardd fel chwilod, lindys ac infertebra eraill sy’n hoffi bwydo ar eich cnydau.
Yn anffodus, mae nifer y draenogod wedi gostwng yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
A ydych am ddysgu rhagor am y mamal diddorol hwn a sut i’w helpu?
Cynhelir Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Draenogod rhwng ddydd Sul 5 Mai 2024 – ddydd Sadwrn 11 Mai 2024. Cydlynwyd gan Gymdeithas Cadwraeth Draenogod y Deyrnas Unedig.
Dilynwch #hedgehogweek ar y cyfryngau cymdeithasol am gystadlaethau, ffeithluniau ac awgrymiadau gorau seleb yn ystod yr wythnos.
Mae gwneud ein gerddi’n le diogel ar gyfer bywyd gwyllt yn flaenoriaeth i lawer sy’n poeni am yr amgylchedd.