Ymgyrch i ganiatáu gweithwyr i gael eu talu i sgrinio am Gancr y Fron

Ar ôl goroesi cancr, mae menyw fusnes o Lanbed am hyrwyddo’r pwysigrwydd o sgrinio am gancr.

gan Ifan Meredith
Breast-Test-Wales-scaled-1Bron Brawf Cymru
IMG_6052Julie Grabham

Mae Julie Grabham yn rhedeg busnes adnoddau dynol ac yn dilyn y profiad o gael Cancr y Fron, mae hi’n galw ar fusnesau i ganiatáu eu gweithwyr i fynd am brawf Cancr yn ystod adeg gwaith. Derbyniodd ddiagnosis ym mis Tachwedd 202 a bu’n dioddef o gancr tan 2023 ac yn parhau i gymryd tabledi a bellach yn awyddus i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd sgrinio am gancr a fu’n bwysig iddi wrth ddarganfod y cancr yn gynnar.

Mae Cancr y Fron yn effeithio ar fywydau tua 2,600 o bobl yng Nghymru sy’n cael diagnosis yn flynyddol ac ymysg y cancr mwyaf cyffredin yn y wlad. Mae cynllun sgrinio Cancr y Fron gan Bron Brawf Cymru ar gael ledled Cymru ar gyfer menywod rhwng 50 a 70 oed bob tair blynedd.

“gall menywod beidio cymryd apwyntiad gan eu bod yn cael eu cosbi yn ariannol”

Nid oes hawl gyfreithiol gan weithwyr i adael y gwaith er mwyn mynd i gael eu sgrinio ond gobaith Julie y byddai ei chynlluniau yn chwalu’r rhwystr i gymaint o fenywod sy’n gweithio rhag mynd am brawf sgrinio Cancr y Fron.

Ateb Julie…

Yn ystod ei chyfnod o driniaeth, lansiodd Julie ymgyrch ‘JGHRPledge’ sydd am ddim i unrhyw fusnes ymuno i ganiatáu eu gweithwyr i fynd am brawf sgrinio Cancr y Fron yn ystod oriau gwaith. Erbyn hyn, mae bron i 200 o fusnesau wedi ymuno â’r cynllun. Dywed Julie mae ei nod a phenllanw’r cynllun fydd i arwain newid i’r gyfraith i roi’r hawl i weithwyr adael yn ystod oriau gwaith i gael prawf sgrinio.

“erfyn ar bob menyw cymwys i fynychu eu hapwyntiad”

Wrth sôn am ei phrofiad personol â Clonc360, esboniodd Julia am y “myth o deimlo lwmp” gan nad oedd hi wedi teimlo dim.

Fel perchennog busnes, llwyddodd Julia i ennill pedair gwobr yn ymwneud â’i gwaith yn cefnogi dioddefwyr cancr.

“dwi’n lwcus o gael diagnosis cynnar a bod gen i lais i helpu gweithredu newid.”