Clonc360

Gohirio holl weithgarwch Cymdeithas Hanes Llanbed

Neges oddiwrth y Cadeirydd:

Yng ngwyneb y sefyllfa ddifrifol sy’n bodoli ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu – er mawr ofid – y bydd Cymdeithas Hanes Llambed yn gohirio’i holl weithgaredd hyd ddiwedd y tymor, a bydd Amgueddfa Llambed ar gau hyd at penderfyniad ymhellach yn y flwyddyn. Gobeithiwn y medrwn ddechrau’r tymor newydd ym mis Medi, ond byddwn yn ail-asesu’r sefyllfa yn ystod misoedd yr Haf.

Gofalwch am eich hunain, – a gwelwn chi yn yr Hydref.

Cofion cynnes,
Selwyn

Cymdogion Llanbed yn creu cynlluniau i helpu ei gilydd

gan Ohebydd Golwg360

Rhestr o’r cynlluniau cyfaill a chymorth yn yr ardal.

Darllen rhagor

Gŵyl Fwyd Llanbed wedi’i chanslo

Cyhoeddwyd yn yr awr ddiwethaf fod Gŵyl Fwyd Llanbed eleni wedi’i chanslo.

Myfyrdod Gweinidog Bethel Parc-y-rhos

Dyma ail fyfyrdod y Parch Huw Roberts ar wefan Bethel Parc-y-rhos oherwydd na chynhelir oedfaon yn ystod cyfnod o ynysu.

bethel.btck.co.uk/NegesyGweinidog

Clonc ar ei ffordd

Mae Delyth a Nia’n paratoi rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc a fydd ar gael yn ddigidol ar ein gwefan wythnos nesaf yn rhad ac am ddim.

Bro360 yn helpu papurau bro Cymru i barhau i gyhoeddi

Gwasanaeth dros dro i helpu papurau bro Cymru gyfan

Darllen rhagor

Gwella adnoddau cymunedol Llanfair Clydogau

gan Dylan Lewis

Gyda grant y Loteri, mae trigolion Llanfair yn ehangu ar ddefnydd posib y neuadd.

Darllen rhagor

Elin Jones yn profi’n bositif am Covid-19

Llywydd y Senedd wedi hunan-ynysu ers nos Iau

Darllen rhagor

Cau holl feysydd chwarae Ceredigion

Pobl yn parhau i ymgynnull mewn parciau chwarae er y canllawiau

Darllen rhagor

“Fi’n poeni bydda i’n colli rhywbeth!”

gan Lowri Jones

O'r canslo i'r cynnal - gallwn greu calendr o holl ddigwyddiadau Cymraeg y fro ddigidol newydd!

Darllen rhagor