Clonc360

Diwedd cyfnod i Hen Dafarn y Ram

gan Dylan Lewis

Rhoddwyd caniatad mewn apêl ar gyfer 3 annedd preswyl yn lle tafarn yng Nghwmann.

Darllen rhagor

Rhybudd ambr am law a pherygl o lifogydd

Mae rhybudd ambr am law a pherygl o lifogydd wedi cael ei ryddhau gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Ceredigion.

Mae’r rhybudd ambr mewn grym o ddydd Gwener, 19 Chwefror 2021, hyd at ddydd Sadwrn, 20 Chwefror 2021.

Disgwylir glaw trwm a chyson a all arwain at rywfaint o lifogydd gan amharu ar drafnidiaeth a gwasanaethau.

Mae negeseuon byddwch yn barod am lifogydd ar gyfer Afonydd Ceredigion eisoes wedi’u cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’n debygol y bydd rhai o’r rhain, yn enwedig yng Nghanol a De’r Sir, yn cael eu cynyddu i Rybuddion Llifogydd gyda’r potensial i gael rhai Rhybuddion Llifogydd Difrifol.

Gallai hyn effeithio ar eiddo sy’n ffinio ag afonydd, yn ogystal â phontydd yn croesi’r afonydd a all olygu posibilrwydd o gau heolydd.

Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd am ddiweddariadau am sefyllfa’r tywydd neu ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, i weld pa rybuddion sydd mewn grym.