Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru o Lanllwni

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Judith ac Aled, gydag Aled yn arwyddo’r Beibl Llywyddol.
Judith ac Aled, gydag Aled yn arwyddo’r Beibl Llywyddol.

Dyma stori a ymddangosodd ar dudalen Llanllwni yn rhifyn Gorffennaf Papur Bro Clonc.

Mewn seremoni a gynhaliwyd yng nghynhadledd flynyddol Undeb Bedyddwyr Cymru yn ddiweddar ac yng ngofal y Parch Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, urddwyd y Parch Aled Davies yn Llywydd yr Undeb am y flwyddyn 2018-2019.

Mae Aled wedi cael ei eni a’i fagu yn Glanafon, Llanllwni. Bellach mae wedi bod yn weinidog ers nifer fawr o flynyddoedd yn ardal Llŷn ac Eifionydd ac yn byw yn Chwilog.

Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Cyngor Ysgolion Sul Cymru a Cyhoeddiadau’r Gair.

Cynhaliwyd y gynhadledd yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, lle hudolus. Llongyfarchiadau mawr iddo.