Storfa o Lyfrau yn Siop y Smotyn Du

Beth am ddathlu Diwrnod y Llyfr yn Llanbed?

gan Enid Heneghan

Beth sy’n cyfleu naws a blas unrhyw le? Ai llyfrau ffeithiol neu straeon llawn cyffro gyda chymeriadau cryf? Suddwch fewn i sedd gyffyrddus a phaned, a byddwch barod am stori Twm Sion Cati a Sgweiar Lloyd o Ffynnonbedr.

O’r ras wyllt yn y Ffordd Beryglus, a theithiau’r porthmyn Ymysg Lladron, i daith olaf Sion Phillip a chwymp y sgweiar yn Dial o’r Diwedd, mae T Llew Jones yn llenwi’r dychymyg a chymeriadau byw.

Llai cyffrous ond yn llawer tywyllach yw portread Caryl Lewis o fywyd cefn gwlad yn Martha Jac a Sianco. Mae’r tri yn gaeth i’r fferm am resymau gwahanol, ac mae’r byd bach yma’n cau amdanynt ac yn mygu unrhyw berthynas allanol.

Ceir blas o’r bwrlwm a’r cystadllu o Eisteddfod Rhys Thomas James rhwng cloriau Llais Llwyfan Llambed gan Goronwy Evans.  Dyma ffenest ar ddywylliant yr ardal a’i dylanwad ar Y Pethe.

Wedi’r dwys, rhaid cael tipyn o hiwmor o’r gyfres ‘ti’n jocan’ – Hiwmor Pregethwr gan Goronwy Evans, neu Hiwmor y Cardi gan Emyr Llywelyn.

Ond am ddarlun o fywyd mewn tre fechan, rhaid troi at Gary Slaymaker a’r Sach Winwns. Fel un sy’n ddi-glem am chwareon, doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn llyfr ar bel-droed. Ond mae’r Sach Winwns yn llawn hiwmor, yn ffraeth ac yn uno ffawd Dynamo Cwmann â dewiniaeth Affrica gyda llu o gymeriadau amheus o Lambed a’r cyffiniau.

Galwch yn Siop y Smotyn Du, ar Stryd Fawr, Llambed, i weld trysorfa o lyfrau Cymraeg a Chymreig.  Yn ystod y cyfnod clo gall pobl gysylltu trwy Facebook neu  ffonio Goronwy Evans.