Blog Byw Eisteddfod Ysgol Bro Pedr: Dydd Mercher

Y diweddaraf o Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024. Pa dŷ fydd ar y blaen? Creuddyn, Dulas neu Teifi?

gan Ceris Mair Jones

Ymunwch â ni ar gyfer bwrlwm ail ddiwrnod Eisteddfod Ysgol Bro Pedr 2024.

15:43

Dulas – ein buddygwyr!

Llongyfarchiadau i bawb!! Am ddiwrnod a hanner! 

15:42

Seremoni wobrwyo

15:41

Seremoni wobrwyo

Cwpan yn rhoddedig gan Geinor Medi Richards – Unawd Merched Iau – Efa, Dulas

Cwpan llefaru Cymraeg iau yn rhoddedig gan Wynne a John Hughes – Trystan, Dulas

Unawd Bechgyn Iau cwpan yn rhoeddedig gan y Parch a Mrs Goronwy Evans – Trystan, Dulas

Tarian yr Unawd Offerynnol yn rhoddedig gan Caroline Roberts – Alma, Teifi

Llefarydd Ail Iaith – Seirian, Creuddyn

Tarian yn rhoddedig Catrin Bellamy a Meinir Thomas – Deuawd – Erin a Teleri, Teifi

Cwpan yr Unawd Hyn yn rhoddedig gan Rhiannon Pugh – Erin, Teifi

Cwpan y grŵp llefaru  yn rhoddedig gan Mr a Mrs Bifan Morgan– Teifi

Cwpan Llefarydd Cymraeg hyn yn rhoddedig gan Elin, Hedydd a Carys – Erin, Teifi

Cwpan Dawns  yn rhoddedig gan Mr a Mrs Ramaya – Creuddyn

Tarian meimio yn rhoddedig gan Dorian Morgan – Creuddyn

Tlws ‘Dyddie Da’ yn rhoddedig gan ferched Cwlwm am y Sgets – Teifi

Cwpan Stori a Sain yn rhoddedig gan Twm Ebbsworth ac Alpha Evans – Trystan a Beca, Dulas

Cwpan Gymnasteg er cof am Dorian Jones – Madi, Creuddyn

Cwpan Dylunuio a thechnoleg bl 10 – 12 – Cameron, Teifi

Tarian i’r llefarydd gorau yn rhoddedig gan Heiddwen Griffiths – Trystan, Dulas

Cwpan i’r gantores mwyaf addawol yn rhoddedig gan Mr a Mrs Twynog Davies– Erin, Teifi

Cwpan yr actor / actores orau yn rhoddedig gan deulu Llys Barcud – Rhun, Teifi

Cwpan Pari Merched yn rhoddedig gan Mrs Gill Hearne – Dulas

Cwpan Côr y Tŷ yn rhoddedig gan ddosbarth 1990 er cof am Megan Taylor, Paul McMullan a Paul Lloyd – Teifi

Arweinydd gorau – Erin, Teifi

Cwpan y parti bechgyn yn rhoddedig gan Aled Wyn Thomas – Dulas

Y Goron Hyn – Elen, Creuddyn

Y Goron Iau – Lyra, Teifi

Y gadair Hyn – Meredydd, Dulas

Y Gadair Iau – Glesni, Teifi

Pwyntiau’r Gwaith Cartref

1af – Dulas – 169

2il – Creuddyn – 163

3ydd – Teifi – 144

Cwpan tŷ buddugol yn gwaith cartref yn rhoddedig gan Eirian, Eleri a Rhian, Frondolau – Dulas

 

Cwpan i’r unigolyn â’r nifer uchaf o farciau gwaith cartref yn rhoddedig gan Gethin, Sulwen, Owain, Bradley, Sioned a Shophie – Fflur Meredith, Dulas

Tarian i’r unigolyn â’r nifer uchaf o farciau ar y llwyfan yn rhoddedig gan Hedydd, Elliw ac Aron, Gwarffynnon – Erin, Teifi

Llwyfan

1af – Dulas – 169

2il – Creuddyn – 158

3ydd – Teifi – 159

Cwpan i’r tŷ buddugol am gystadlaethau llwyfan yn rhoddedig gan Derek a Janet Evans – Dulas

Canlyniadau Terfynol

1af – Dulas  – 334

2il – Creuddyn – 321

3ydd – Teifi – 303

 

15:25

Canlyniadau Terfynol 

1af – Dulas – 334

2il – Creuddyn – 321

3ydd – Teifi – 303#

LLONGYFARCHIADAU I BAWB!!

Ifan Meredith
Ifan Meredith

Llongyfarchoadau i Ddulas ar ennill Eisteddfod Bro Pedr 2024 o Seland Newydd! Prowd iawn o’r tŷ!!

15:24

Canlyniad olaf o’r cystadlaethau llwyfan – y côr!

1af – Teifi

2il – Creuddyn a Dulas

15:22

Canlyniad hir ddisgwyliedig y Meim.

Geiriau’r beirniad, Gwennan Jenkins – “Cystadleuaeth o’r safon uchaf – rhagorol – ddylech chi fod yn browd iawn. Ni wedi JOIO MAS DRAW!”

1af – Creuddyn

2il – Teifi

3ydd – Dulas

14:53

Sara Elan Jones yn rhannu beirniadaeth y côrau.

14:42

Y Cora y’n cloi’r cystadlu am y dydd wrth ganu Dal fy Llaw. Cyfieithiad o’r gân Lean on Me. Gwych gweld cymaint ar y llwyfan yn canu. Da iawn bawb!

14:37

Dyma’r canlyniadau llawn ar gyfer y gadair iau ac hŷn. Llongyfarchiadau i bawb a daliwch ati i ysgrifennu! Canmoliaeth mawr wrth y beirniad, Gwennan Evans.

14:32

Canlyniad y Limrig:

1af – Elan, Creuddyn

2il – Ifan, Teifi

3ydd – Teleri, Teifi