Sioe Amaethyddol Llanbed 2024

Diwrnod llwyddiannus unwaith eto i Sioe Llanbed, er gwaetha’r tywydd gwlyb!

gan Carys Jones

Cynhaliwyd Sioe Llanbed unwaith eto eleni ar Gaeau Pontfaen ar y 6ed o Orffennaf. Er gwaetha’r tywydd, buodd yn ddiwrnod llwyddiannus llawn bwrlwm cystadlu a joio!

Dau berson prysur, gweithgar a hynod o bwysig i ni fel Pwyllgor oedd ein Llywyddion eleni sef Bleddyn ac Ann Williams, Cnwc y Fallen, Cellan. Mae’r ddau yn hynod o weithgar ar bwyllgor y Sioe ers blynyddoedd bellach felly braint yw cael nhw fel Llywyddion am y flwyddyn. Gobeithio cawsoch ddiwrnod gwerth chweil.

Cafwyd llu o gystadlaethau eto eleni gan gynnwys gwartheg, defaid, ceffylau, geifr, cŵn, y babell a’r CFfI. Roedd cystadlu ym mhob adran yn gryf iawn gyda’r beirniaid yn cael gwres eu traed!

Am y tro cyntaf eleni, cafwyd Adloniant plant yn y dydd sef Adloniant gan Siani Sionc. Roedd to iau’r gymuned wrth eu boddau.

Cystadleuaeth boblogaidd iawn gyda’r nos oedd ‘It’s a Knockout’ gyda 6 tîm yn cystadlu. Diolch i’r rhai a fu’n trefnu a llongyfarchiadau i dîm Merched y Llan am gipio’r wobr gyntaf.

Fel Pwyllgor hoffwn estyn diolch o waelod calon i bawb a fu ynghlwm gyda’r paratoadau o flaen llaw, ar y diwrnod a’r diwrnodau wedi’r Sioe.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu nôl yn 2025!

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Carys ar info@lampetershow.co.uk

Dweud eich dweud