#AtgofGen Paratoi ar gyfer Gŵyl Genedlaethol mewn Tref Fach

Braslun o hanes paratoadau Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyfarfu’r pwyllgorau dros ddwy neu dair blynedd a pharatowyd testunau ar gyfer Gŵyl y Cyhoeddi ar yr 2il o Orffennaf 1983. Swyddogion y Pwyllgor Gwaith oedd: Edwin Jones (Cadeirydd), Aneurin Jones (Is-Gadeirydd), Goronwy Evans (Ysgrifennydd), Tanat Davies ac Emyr James (Trysoryddion) a Tudor Davies (Ysgrifennydd Ariannol).

Mae Cylch yr Orsedd ger Sgwâr Burgess yn atgof gweladwy hyd heddiw o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r ardal hon. Cafwyd y meini gan yr amaethwyr canlynol:

Mr Davies, Llwynifan, Cellan; Mr a Mrs Davies, Pensingrug, Cellan; Mr a Mrs Griffiths, Abermarlais, Cellan; Mr a Mrs Eiddig Jones, Gelliddewi Uchaf, Cwmann; Mr John Jones, Llwyngaru, Tregaron; Mr Gerwyn Morgan, Trebannau, Cellan; Mr a Mrs Punter, Nantego, Cellan; Mr John Rees, Ffos-y-ffin, Cellan; Mr a Mrs J T Rees, Morfa, Llanddewi Brefi a Mr Cyril Thomas, Pistyll Einion, Cellan. Trefnwyd a chodwyd y meini gan y Cyng. Evan Lewis, T Goronwy Phillips, John Warmington, Gwesyn Williams a Gerwyn Jones.

Dewiswyd merched ar gyfer y Ddawns Flodau o ysgolion Caio, Coedmor, Cribyn, Cwrtnewydd, Ffarmers, Felin-fach, Ffynnonbedr, Llanllwni, Llansawel, Llanwenog, Llanwnnen, Llanybydder, Llanycrwys, Rhydcymerau, Trefilan, Y Blaenau ac Ysgol y Dderi.

Huw, Nicola, Delyth, Angela, Meinir a Rhidian.

Dewiswyd Angela Rogers Davies, Cribyn yn Fam y Fro ynghyd â’i Macwyaid Huw Evans a Rhidian Huw Evans, Llanbed. Dewiswyd Delyth Medi Jones, Llanbed yn Ferch y Fro ynghyd â’i Morwynion Nicola Davies, Cribyn a Meinir Williams, Llanwnnen.

Cafodd aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc lleol y dasg o gludo baner yr Orsedd sef Aled Evans, Cerdin Price a Paul Turner o Glwb Cwmann a David Davies, Gareth Jones a Daniel Morgan o Glwb Silian.

Lleolwyd Swyddfa’r Eisteddfod yn Stryd y Bont (uwchben hen Fferyllfa Lloyds – P&D ar y pryd) ac agorwyd Siop yr Eisteddfod ar ddechrau mis Mai 1984 yn y Stryd Fawr (Swyddfa Yswiriant Eryl Jones erbyn heddiw) lle gwerthwyd nwyddau’r eisteddfod a thocynnau’r wythnos fawr. Bu Emrys Davies, Bon Marche yn addurno’r ffenest ac roedd ar agor o ddeg y bore tan bedwar y prynhawn ddydd Llun, Mawrth, Iau a Gwener gan wirfoddolwyr.

Glyn Ifans ac Ann Lewis yn gwerthu tocynnau yn Siop yr Eisteddfod.

Am y tro cyntaf yn hanes yr ŵyl gwerthwyd crysau T a chrysau chwys gyda logo’r eisteddfod arnynt wedi eu gwneud yng Nghymru. Gwnaethpwyd y crysau gan Phillips a Jones o Gastell Nedd ac argraffwyd y logo arnynt gan gwmni o Gaerdydd.

Roedd amryw o nwyddau eisteddfodol ar werth yn y siop, ond nid yn y siop yn unig. Fel ysgrifennydd y pwyllgor gwaith a chadeirydd y pwyllgor cyhoeddusrwydd, roedd Goronwy Evans yn mynd o amgylch ysgolion mewn Land Rover yn gwerthu nwyddau. Roedd Siop J H Williams a’i feibion wedi comisiynu llestri eisteddfodol eu hunain hefyd.

Cyhoeddwyd record sengl gan Sain gydag Ail Symudiad yn canu cân Bedlam. Dyma’r enw a roddwyd ar y Pwyllgor Ieuenctud.  Roedd y gerddoriaeth gan Richard Jones a’r geiriau gan Iona James. Roedd rhai o ferched Côr Aelwyd Llambed yn canu hefyd.

Darlledwyd rhaglen “Sêr” o Lanbed ar S4C ar y 24ain Gorffennaf pan glywyd y gân ar y teledu am y tro cyntaf. Yn ogystal â hynny, roedd y cyflwynydd Gareth Roberts yn cyfweld â Dafydd Meirion o’r band Treiglad Pherffaith, Derek Brown o’r Racaracwyr a Wyn Jones o Ail Symudiad.

Cafwyd tywydd mwyn ar ddechrau 1984 a fu’n gymorth mawr er mwyn paratoi’r pafiliwn a’r maes ar gyfer yr eisteddfod. Dywedodd J Idris Evans y trefnydd yn y Western Mail ar y 27ain Mawrth bod to’r pafiliwn a phabell Celf a Chrefft yn eu lle’n barod.

Cwmni cludo o Lanarth sef D J Thomas a’i feibion oedd yn gyfrifol am symud y pafiliwn haearn o Langefni i Lanbed a hynny mewn 44 siwrnai lori. Roedd lle i 4,800 i eistedd yn y pafiliwn.

Roedd popeth mor gyfleus yn Llanbed.  Lleolwyd Maes yr Eisteddfod ar Gae Pontfaen ar Ffordd Llanwnnen a hanner Cae Plas Ffynnonbedr gyda mynedfeydd dros y bont o’r Cae Sioe (Safle cynradd Ysgol Bro Pedr erbyn heddiw) a Maes Parcio Cae Plas Ffynnonbedr a’r Maes Carafanau.  Lleolwyd y Maes Ieuenctid ar gaeau Penbont, Cwmann.

Am y tro cyntaf erioed, gosodwyd bron i gant o ffonau ar y maes er mwyn cyfathrebu a darlledu. Golygodd hyn y bu’n rhaid gosod un filltir o linell ffôn arbennig bob cam o’r gyfnewidfa leol i’r maes.

Ni ragwelwyd unrhyw anawsterau ynglŷn â darparu cyflenwadau dŵr ar gyfer yr eisteddfod. Adroddwyd yn Y Cymro ar yr 31ain o Orffennaf

“Er bod gwaharddiadau ar y defnydd o ddŵr mewn bodolaeth yn Ne Ceredigion, dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Dŵr nad oeddynt yn rhagweld unrhyw drafferthion i gyflenwi’r galw ychwanegol yn ystod wythnos y ‘Steddfod.”

Adroddwyd yn y Cambrian News ar y 1af Mehefin bod y Prif Arolygydd Bryn Jones wedi trafod trefniadau traffig a pharcio gyda’r Siambr Fasnach ar yr 21ain Mai.

“Bydd bysus yn parcio ar y Rookery. Bydd traffig o Gwmann yn teithio o Stryd y Bont i Stryd Newydd a’r Cwmins er mwyn parcio yn y cae sioe. Bydd traffic o Gaerfyrddin yn troi yn Llanybydder am Lanwnnen ac yn parcio ger y Maes. Bydd parcio i’r anabl yno hefyd. Bydd traffig o Aberaeron a Thregaron yn troi i Ffordd y Bryn hyd at Bontfaen a lan Heol Maestir i’r maes parcio ar y chwith.”

Maes Parcio’r Eisteddfod yn y Cae Sioe gyda’r Pafiliwn yn y cefndir.

Ym mis Gorffennaf, danfonodd A Cynfail Lake, y Trefnydd Cynorthwyol lythyron at y cystadleuwyr yn nodi’r trefniadau ac enwi lleoliadau’r rhagbrofion sef:

Capel Brondeifi, Capel Noddfa, Capel Shiloh, Capel Soar, Capel St Thomas, Ystafell Gerdd Adeilad Caergaint y Coleg yn ogystal â Neuadd, Campfa ac ystafell arall yn yr Ysgol Uwchradd.

O ran y codi arian, roedd Llanbed wedi torri pob record. Yn nhrefi Llanbed a’r plwyfi cyfagos, gosodwyd y nod yn ôl £2 y pen o’r boblogaeth, ac yn y plwyfi tu allan i’r cylch yma, £1 y pen. Nod y gronfa leol oedd £80,000.

Adroddodd Margaret Jones y Swyddog Cyhoeddusrwydd yn y Cambrian News ar y 25ain Mai bod nifer dda wedi cofrestru ar gyfer cystadlu yn y brifwyl.

“O ran cystadlaethau i unigolion, pobl yr alawon gwerin sy’n mynd â hi – 60 o enwau wedi dod i law ar gyfer yr unawd 12-16 oed. Dyw’r adroddwyr ddim yn bell ar ei hôl hi chwaith, gyda 54 yr un yn cystadlu ar adrodd “Ymson y Samwn” ac adrodd o’r ysgrythur, y ddau o 12-15 oed. Y cerddorion sy’n dod nesaf yn y ‘stakes’ Eisteddfodol, gyda 52 o enwau wedi dod i law ar gyfer yr Unawd Operatig Agored, a 51 ar gyfer yr Unawd i Ferched rhwng 12 a 15 oed.”

Torrwyd pob record am nifer y gweithiau a ddaeth i law yn Adran Gelf a Chrefft yr Eisteddfod gyda dros 1,500 o gynigion yn yr adrannau i gyd.

Pobl leol a fu’n smwddio gwisgoedd yr Orsedd yn yr Ysgol Gyfun. Llun: Clonc.

Ond nid llwyddiannau’n unig a fu cyn yr eisteddfod. Bu ambell i storm hefyd. Adroddwyd ym Mhapur Bro Clonc mis Mehefin ynglyn â threfniadau dawnsfeydd Twrw Tanllyd.

“Clywodd Clonc fod cryn anfodlonrwydd ymysg rhai o Gymry ifanc y dref ynghylch penderfyniad Cyngor Dosbarth Ceredigion i wrthod caniatâd i fudiad Cymdeithas Adloniant Cymru i gynnal dawnsfeydd yn Neuadd Fictoria yn ystod wythnos yr eisteddfod. Mae’n debyg i ganiatâd gael ei roi i’r Urdd ac i Glybiau Ffermwyr Ifanc gynnal eu dawnsfeydd hwythau yn y neuadd ond nid i CAC.”

Yn ôl y Western Mail ar yr 20fed Gorffennaf, cafwyd caniatâd wedi i’r heddlu a threfnyddion yr eisteddfod ymbil ar y cyngor i ailystyried. Ond nid dyna ddiwedd y mater. Wedi i’r cyngor ganiatáu dwy noson i Gymdeithas Adloniant Cymru roedd swyddogion y gymdeithas wedi cael ar ddeall bod caniatâd ganddynt am bedair noson. Mewn adroddiad yn y Cambrian News ar y 27ain Gorffennaf dywedodd cadeirydd y pwyllgor y Cyng. Johnny Williams fod ei ffôn wedi bod yn dwym hyd yn oed ar ôl i’r gymdeithas gael caniatâd am ddwy noson.

Sandal arall oedd y stori honno am ddwy goron a adroddwyd yn y Western Mail ar yr 17eg o Orffennaf. Un goron a archebwyd gan Swyddfa’r Eisteddfod o waith Kathleen Makinson o Ddinbych, ac un a archebwyd gan aelod o’r pwyllgor gwaith o waith Tony Lewis o Feirionnydd. Arddangoswyd coron Tony Lewis a gafodd ei gwrthod yn ffenest siop Lloyd Jewellers ar Sgwâr Llanbed. Tybed beth ddigwyddodd iddi wedyn?

Y Goron a gafodd ei gwrthod yn ffenest Siop Lloyd Jewellers.

Gwnaethpwyd y gadair gan Gwilym Price a’i fab Cerdin o goeden dderw 80 oed a dyfodd ar Ystâd Dolaucothi. Arddangoswyd y gadair yn siop Gwilym Price ei fab a’i ferched yn Stryd y Coleg tan wythnos yr eisteddfod.

Tipyn o waith paratoi felly ar gyfer gŵyl mor fawr i drigolion tref fach mewn ardal wledig, ond roedd pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar i groesawu eisteddfodwyr i brifddinas dros dro Cymru ar wythnos gyntaf mis Awst 1984.