Beth yw Clonc360?

Gwasanaeth straeon lleol gan bobol leol yw Clonc360, ac mae’n bartneriaeth rhwng cynllun Bro360 gan gwmni Golwg a phapur bro Clonc.

Crëwyd y wefan gyda cymdogaethau ardal Llanbed i fod yn fan canolog ar-lein ar gyfer rhannu a thrafod llwyddiannau, dyheadau, a bwrlwm y fro.

Mae Clonc360 yn adlewyrchu ac yn hybu diwylliant y fro trwy gyfrwng newyddion, straeon a thrafodaeth.

Y plwyfi sy’n rhan o’r fro yw: Cellan, Llanbedr Pont Steffan, Llanbedr Wledig, Llanfair Clydogau, Llangybi, Llanllwni, Llanwenog, Llanwnnen, Llanybydder, Llanycrwys ac Uwch Gaeo a Phencarreg.

Gall pawb sy’n byw yn y fro greu cyfrif ar y wefan (Ymuno) a chreu drafft o stori neu ddigwyddiad. Dyma ein lle ni, pobol y fro, i roi sylw i bopeth sy’n bwysig i ni. Dyma pa mor hawdd yw hi i greu stori.

Tîm o wirfoddolwyr sy’n golygu’r holl gynnwys sy’n cael ei gyhoeddi ar Clonc360, ac sy’n rhedeg y cyfrifon cymdeithasol. Os hoffech ymuno â’r criw i gynnig help llaw, cofiwch bod croeso i chi gysylltu.

Dyma ragor o gwestiynau cyffredin am Clonc360 a gwefannau Bro360.