It’s a Knock Out! noson Sioe Llambed

Merched y Llan yn dod i’r brig mewn cystadleuaeth o 7 tîm awchus

gan Bethan Jones

“Ti’n cymryd rhan yn It’s y Knock out heno?” clywyd y cwestiwn yn cael ei ynganu droeon yn ystod y dydd, ar faes Sioe Llambed. Tebyg iawn oedd yr ymateb ar sawl achlysur ‘Na, wy’n rhy hen, fuo lwc i mi gael hypothermia tro d’wetha’!’

Er gwaethaf ein gofidion nad oedd neb am fentro eleni, erbyn 6 o’r gloch nos Sadwrn, safodd 7 tîm awchus (ac ambell un pryderus) o’m blaenau. A thân yn eu boliau, dechreuodd y timau ar y rownd gyntaf gyda gêm o daflu a dal wy dros bellter. Dangosodd tîm ‘99’, sef Tom Conti a’r criw, ddwylo medrus iawn, gan ddod â nhw i’r brig i gychwyn.

Cafodd y timau flas arni, felly dyma ddechrau ar y rowndiau cylchdro – dwy funud o daflu dŵr, teithio mewn whilber gyda sbwng gwlyb stêcs, ysgwyd dŵr allan o hen deiar (ailgylchu ar ei orau!), diosg hetiau a menig y plantos i ffwrdd heb gyffwrdd â’u dwylo, cludo toilet rolls o un lle i’r llall ar ffyn bambŵ rhwng y coesau. Ar bapur mae’r gweithgareddau’n ymddangos yn rhai hurt bost a gwlyb diferol – gwir bob gair!

Roedd ambell i dîm yn cyfathrebu a chynllunio bob cam strategol ac eraill yn mynd amdani fal cath i gythraul. Dangosodd ambell un sgiliau celfydd iawn wrth y ‘potato poop’, ond bu’n rhaid gwylio ambell i dîm cystadleuol, i wneud yn siŵr bod tegwch i bawb! Wrth lwc, roedd gennym stiwardiaid penigamp wrth y llyw – Aled Bowen, Beca a Llion Russell, Tomos ac Elen Felindre, Gareth a Carys, Sioned Russell a Mark Tynlofft.

Gorffennwyd yr ornest gyda’r brif rownd, aeth y timoedd benben a’i gilydd y tro hwn! Sboniciodd y cystadleuwyr mewn sachau mawr W.D.Lewis yna dros hen deiars, cyn casglu taten o’r dŵr gyda’u cegau, yna twrio am ddarn o basta mewn bwced o flawd- gyda’u dannedd, roedd barf gwynion, ffluwchog ambell un yn bictiwr wedi hyn! Daeth y cyfan i derfyn mewn steil wrth i’r cystadleuwyr lithro ar draws mat sebonllyd.

Merched y Llan ddaeth i’r brig eto eleni, sef Elin Llwyn, Laura Llanfairfach, Gwawr Bowen, Rhian Davies a Ruth Lewis. Llongyfarchiadau iddyn nhw, gwelwyd cyfathrebu a gwaith tîm campus. Diolch i’r noddwyr hael – Douglas Bros a PJE Accountants and Advisors, ac i lywyddion y dydd am gyflwyno’r gwobrau sef £250 i’r enillwyr – Merched y Llan, £150 i’r ail dîm – Rygbi Merched Tregaron, a £50 i’r bechgyn yn eu fests – ‘Suns out, Guns out’.  Diolch mawr i’r timau eraill – ‘Eryl Jones’ Fanclub’, ‘CFFI Cwmann’, ‘99’, a’r ‘Timberwolves’.  Does dim amheuaeth bod pawb wedi mwynhau – y cystadleuwyr, y dorf a’r stiwardiaid!

gan Bethan ac Owain Jones (Felindre).

Dweud eich dweud