Noson codi arian yn codi £5,000 i Uned Cemo Bronglais

Trefnodd Eirian Jones ac Emyr Jones, perchnogion Teifi Forge LTD noson i godi arian

gan Hywel Dda Health Charities

Yn y llun uchod (o’r chwith i’r dde): Bettina Vance, Nyrs Glinigol Arbenigol Cemotherapi; Stacey Mleczek, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd; Eirian Jones ac Emyr Jones, Teifi Forge, a Rachel Bran, Uwch Nyrs Uned SACT. Trefnodd Eirian Jones ac Emyr Jones, perchnogion Teifi Forge LTD, noson i godi arian a chodwyd £5,000 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais.

Mae Teify Forge Ltd yn fusnes saernïo yng Nghwmann a sefydlwyd ym 1979 gan Emyr ac Eirian.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar 18 Tachwedd 2023 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd Eirian: “Fe wnaethon ni gynnal noson codi arian gyda’r canwr a’r comediwr, Mike Doyle a’i fand, ynghyd â chantores wadd fenywaidd. Cynhaliwyd ocsiwn a raffl ar y noson hefyd.

“Rydym wastad wedi cynnal digwyddiadau gwahanol i godi arian ar gyfer elusennau amrywiol dros y blynyddoedd. Codwyd £10,000 a fydd yn cael ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Cemo Bronglais.

“Diolch i bawb a fynychodd y noson ac a roddodd yn hael.”

Dywedodd Bridget Harpwood, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda Ceredigion:

“Hoffem anfon ein diolch diffuant i Eirian ac Emyr am drefnu’r digwyddiad codi arian a chodi swm mor wych at achos gwych.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

Dweud eich dweud