Cyfrol y Cymeriadau Bro

Cyhoeddi portreadau a ymddangosodd ym Mhapur Bro Clonc gan Twynog Davies

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc

Roedd y Grannell, Llanwnnen dan ei sang nos Iau 25 Hydref 2007 ar gyfer noson lansio cyfrol Cymeriadau Bro gan Twynog Davies.

Cyfrol yw hon yn cynnwys erthyglau ar 44 o gymeriadau a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mhapur bro Clonc. Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y papur, cyhoeddwyd y gyfrol.

Cafwyd cyhoeddusrwydd da i’r noson o flaen llaw gydag eitemau ar Radio Ceredigion, BBC Radio Cymru ac ar Wedi 7.

Daeth rhyw 140 o bobl ynghyd i’r lansiad a braf oedd gweld nifer fawr o’r cymeriadau eu hunain yn bresennol. Cyflwynodd Dylan Lewis y siaradwyr gwadd sef Twynog Davies, John Williams, Andrew Jones, Dylan Iorwerth a Megan Jones. Darllenodd Dylan Iorwerth englyn o’i waith hefyd.

Aredig portreadau – yn nhir bras

Daear bro; rhoi’r geiriau

Yn oludog fel hadau

Yn y pridd – er mwyn parhau.

Cafwyd dwy gân gan Kees Huysmans gydag Elonwy Pugh yn cyfeilio. Gwahoddodd y gynulleidfa i ymuno ag ef yn yr ail gân. Y cyfan yn ddifyr ac yn adloniant pur. Gweinwyd cawl blasus a phice bach gan staff y Grannell wedyn, a phawb wedi mwynhau gwledd.

Yn ystod hyn oll, gwelwyd lluniau o’r cymeriadau sy’n destun i’r gyfrol ar sgrîn fawr yn yr ystafell.

Cyfrannodd nifer o bobl wobrau i’r raffl, a gwerthfawrogir hynny’n fawr iawn. Yr enillwyr oedd: Gwynfor Lewis, Alan Morgan, John Meirion Jones, Liz Mills, Megan Jones, Magw Hughes, Rhian Twynog, Anita Williams a Twynog Davies.

Cyn i bawb gasglu a phrynu eu copïau diolchodd Dylan i bawb a gymerodd ran, ac i bawb a gefnogodd ac a gyfrannodd tuag at lwyddiant y noson a’r gyfrol. Cyflwynwyd tlws i Twynog fel gwerthfawrogiad o’i waith gan Iestyn a Morgan, a chyflwynwyd blodau i Hazel gan Sara a Mari.

Bu Twynog yn ddigon caredig i arwyddo llyfrau i’r rhai â diddordeb, tra bu gweddill y gynulleidfa yn cymdeithasu wedi noson hwylus a braf.

Gwerthfawrogwyd cydweithrediad swyddogion Prosiect Papurau Bro Ceredigion a Sir Benfro gyda chasglu deunydd a theipio. Diolchir hefyd am gefnogaeth ariannol ‘Milltir Sgwâr’ a ‘Cynnal Ceredigion’, ac i wasg Y Lolfa am eu gwaith glan. Gwerthwyd 272 o danysgrifiadau o flaen llaw, a diolch i Nia a Mary am y gwaith gweinyddu trefnus.

Dyma restr o’r cymeriadau yn y cyfrol:

1 – Dr Islwyn Ffowc Elis, Rhodfa Glynhebog, Llambed

2 – Mrs Ray Davies, Crug, Llanybydder

3 – Mr Andrew Jones, Pentresiôn, Pentrebach

4 – Mr Glyn Ifans, Gwynon, Llambed

5 – Mrs Janet Cooper-Davies, Ynysfaig, Stryd Newydd, Llambed

6 – Mr Haydn Lewis, Talgrwn, Llanwnnen

7 – Mrs Sulwen Morgan, Rhodfa Glynhebog, Llambed

8 – Y Canon T. R. Evans, 60 Penbryn, Llambed

9 – Mrs Anita Williams, Gwêl y coed, Cwmann

10 – Mr Timothy Evans, Glynrhosyn, Penbryn, Llambed

11 – Mr Glan Evans, Nantyffin, Llambed

12 – Mr Sam Morgan, Penparc, Silian

13 – Y Parch. T. Glenfil Jones, Hafan, Llanybydder

14 – Miss Elin Jones, Tynllyn, Llanwnnen

15 – Mrs Nesta Harries, 4 Y Deri, Heol y Gogledd, Llambed

16 – Mr Delfryn James, Y Fron, Stryd y Bont, Llambed

17 – Mrs Nansi Jones, Brynheulwen, Heol y Bryn, Llambed

18 – Y Parch Wynn Vittle, Llanllwni

19 – Mr Danny Davies, Frondeg, Llanybydder

20 – Mrs Bethan Phillips, Castellan, Llambed

21 – Mr Dafydd Mills, Ffynnonfair, Pentrebach a Mr Rhys Williams, Bayliau, Cellan

22 – Mr Daniel Davies, Y Gilfach, Heol y Gogledd, Llambed

23 – Mr Andrew Jones, Glanhathren, Cwmann

24 – Mrs Eleri Davies, Pentre, Llanfair Clydogau a Mrs Margaret Jones, Glanhelen, Heol y Gogledd, Llambed

25 – Mr Dennis Jones, Bontnewydd, Llanybydder

26 – Mr Dylan Iorwerth, Pen y Nant, Llanwnnen

27 – Mr Sion Jenkins, Cathal, Cwrtnewydd

28 – Mr Caradog Jones, Coed y Glyn, Ffordd Glynhebog, Llambed

29 – Mr John Jones, 12 Peterwell Terrace, Llambed

30 – Miss Mattie Evans, Llwydfaes Cribyn

31 – Mr Dylan Wyn, Y Fron, Llanybydder

32 – Mr Dai Davies, Vader, Heol yr Orsaf, Llambed

33 – Mrs Irene Williams, Cae’r Nant, Cwmann

34 – Cwmni W.D. Lewis a’i Fab, Stryd y Bont, Llambed

35 – Mr David Davies, Gwarffynnon, Silian

36 – Mr Aneurin Rees Davies, Tynffynnon, Maestir

37 – Mrs Iona Trefor–Jones, Ty-nant, Cwmann

38 – Mr Dewi Davies, Glanafon, Llanllwni

39 – Mr J. Dilwyn Williams, Felinfach

40 – Mr Kees Huysmans, Yr Hen Siop, Tregroes

41 – Mr David Morgan, Haulfryn, Cwmann

42 – Mrs Aerwen Griffiths, Pengarn, Llanfair Clydogau

43 – Mr Harold Williams, Tŷ Howell, Cwmann

44 – Mr Twynog Davies, Frondolau, Pentrebach gan John Beufort Williams

Gobeithir y bydd y llyfrau ar werth nawr yn yr un siopau sy’n gwerthu Clonc o fis i fis yn ogystal ag ambell siop arall yn yr ardal. Bargen am £4.95. Os na ellir dod o hyd i gopi ffoniwch Nia neu Mary ar 01570 480015. Codir £1 ychwanegol am bostio. Danfonwch eich sieciau’n daladwy i CLONC, Maesglas, Drefach, Llanybydder, SA40 9YB.