Agoriad Swyddogol Clwb Bowlio Llambed

gan Alis Butten

Agoriad Swyddogol Clwb Bowlio Llambed

Cynhaliwyd agoriad swyddogol Clwb Bowlio Llambed ddydd Sul, 19 Ebrill, gyda Maer a Maeres y dre yn bowlio bowl cynta’r tymor. Braf oedd gweld cymaint o aelodau yn mwynhau’r prynhawn, a sawl aelod iau ac wynebau newydd yn rhoi cynnig i’r gêm. 

Cyn cychwyn ar y gêm, gwnaeth y Cadeirydd, Lewis Williams, groesawu teulu’r diweddar Edwin Harries. Diolchodd am y rhodd o fainc er cof am Edwin a oedd yn aelod gweithgar o’r clwb.

Mae’r clwb yn edrych ymlaen am y tymor sydd i ddod yn dilyn llwyddiant llynedd.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn ymuno â’r clwb, mae yna groeso cynnes i bawb.