Bagiau siopa am ddim wrth danysgrifio i Clonc

Wel beth am brynu tanysgrifiad blwyddyn o Bapur Bro Clonc fel anrheg?

Papur Bro Clonc
gan Papur Bro Clonc
Bag Siopa Poced Papur Bro Clonc.
Bag Siopa Poced Papur Bro Clonc.

Ydych chi dal i chwilio am anrheg Nadolig ar gyfer rhywun?  Wel beth am brynu tanysgrifiad blwyddyn o Bapur Bro Clonc fel anrheg?

Am £17.50 yn unig,  caiff deg rhifyn o’r papur bro ei bostio yn syth i’r tŷ.  Golyga hyn y caiff swyn eich anrheg ei wasgaru dros flwyddyn gyfan, ac nid dros y Nadolig yn unig.

Yn ychwanegol i hyn, mae Papur Bro Clonc yn rhoi bag siopa poced Clonc am ddim i chi ac i’r person sy’n derbyn y tanysgrifiad, fel arwydd o ddiolch am eich cefnogaeth.

Dyma fag siopa sy’n plygu’n fach i ffitio mewn poced neu fag llaw, fel y bydd e gyda’r siopwr ar gyfer yr achlysuron siopa hynny pan fydd rhywun wedi anghofio mynd â bag gyda nhw.

Caiff Clonc ei gyhoeddi bob mis, heblaw misoedd Ionawr ac Awst, ac ynddo cewch hanesion ardal plwyfi: Cellan, Llanbedr Pont Steffan, Llanbedr Wledig, Llanfair Clydogau, Llangybi, Llanllwni, Llanwenog, Llanwnnen, Llanybydder, Llanycrwys ac Uwch Gaeo a Phencarreg.

Clonc yn cyrraedd drwy'r post.
Clonc yn cyrraedd drwy’r post.

Postir rhyw 50 o gopiau i gartrefi pell ac agos bob tro.  Mae rhan fwyaf o’r £17.50 yn mynd tuag at y costau postio.  Ond un o amcanion Clonc yw hybu Cymreictod a sicrhau twf yn y nifer o bobl sy’n darllen Cymraeg.  Felly byddai gwerthu mwy o danysgrifiadau yn cynorthwyo swyddogion Clonc i gyflawni’r amcan hon.

Os ydych yn adnabod rhywun sy’n byw yn bell o’r ardal, neu rywun sy’n gaeth i’r tŷ, wel dyma anrheg Nadolig ddelfrydol ac ymarferol iddyn nhw.

Cysylltwch ag un o swyddogion Clonc am fwy o fanylion.  Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen ar wefan Clonc a’i dychwelyd gyda thâl neu fanylion banc.