Bore Dydd Sul, 18eg Hydref, roedd y cwrdd yng ngofal yr Ysgol Sul. Ond, dim jyst y bobol ifanc oedd yn cymryd rhan heddi, o na! … daeth hi’n amser i ychwanegu y tri gŵr doeth, sef Steve, Emyr a Steve Spencer!
Wrth ddechrau’r cwrdd, bu Vicky, Rhian a Denise yn sôn am beth yw Diolchgarwch a’r pwysigrwydd sydd o ddiolch i’r ffermwyr am eu holl waith caled.
Hyfryd oedd clywed y merched a’u mamau yn canu “Braf yw bwyta…” rhwydd yw gweld o ble mae’r merched wedi cael eu lleisiau canu prydferth!
Bu Sasha a Lily yn arddangos eu posteri lliwgar wrth i Elain, Nia a Ellie adrodd hanes dilyn torth o flawd o’r cae yr holl ffordd i’r bwrdd bwyd. Canodd Kay “Tu ôl i’r dorth mae’r blawd…” yn ystod y cyflwyniad.
Wedyn adroddodd Kay y darn “To God.com” sy’n sôn am ofyn i Dduw i fendithio eich cyfrifiadur! Roedd hwn yn bennill addas iawn, gan ein bod ni gyd yn gweld diwrnod heb edrych ar y sgrin yn anodd iawn yn Ysgol Sul yr Eglwys!
Wedi i’r gynulleidfa ganu’r ail emyn, gyda Susan wrth yr organ, dyma Steve, Emyr, Steve a Rhian, yn dod i’r ffrynt i orwedd ac esgus cysgu.
Yn y sgets roedd Ellie wedi sylweddoli fod y Cynhaef wedi cyrraedd yn gynnar, ac roedd hi yn mynd o amgylch y pentref i geisio dihuno bobol i’w helpu hi, ond, roedd y 4 hyn yn meddwl am esgusodion dwl!
Roedd Steve wedi blino gormod i helpu, roedd Emyr angen ei ‘beauty sleep’, dwedodd Steve S taw cogydd oedd e felly roedd e’n ffaelu helpu, ac adroddodd Rhian restr o esgusodion, yn cynnwys ei bod hi’n cael ‘bad hair day’, ofn torri gewin a bod llew cas tu allan i’r ffenest!
Ond, wrth i Elain, Ellie a Nia weddio am gymorth, dyma’r 4 yn dihuno a phenderfynu dod i helpu. Roeddant wedi sylweddoli’r pwysigrwydd o weithio gyda’n gilydd.
Ac i orffen y cwrdd adroddodd y merched benillion yn sôn am y pethau maent yn ddiolchgar amdanynt.
Wel i mi, mae’n rhwydd iawn i fi ddweud am beth rydw i’n ddiolchgar … y criw yma! Diolch o galon i chi gyd, rydych chi wir yn werth y byd yn grwn.
Kay