Merched Llambed yn bowlio dros Gymru

gan Alis Butten

Da iawn i bedair o ferched Clwb Bowlio Llambed a fu’n cynrychioli Cymru yn Royal Leamington Spa penwythnos diwethaf yn y gemau cartref. Llongyfarchiadau i Anwen Butten, Rhian Jones, Melanie Thomas a Carolyn James a fu’n rhan o dîm Cymru a fu’n cystadlu yn erbyn Lloegr, Iwerddon, Yr Alban a Jersey.

Enillwyd yn erbyn Jersey, Yr Alban a Lloegr efo’r gemau’n gyffrous â chwarae o safon arbennig. Roedd yna gefnogaeth dda gan aelodau Clwb Bowlio Llambed a hefyd aelodau o glybiau eraill Ceredigion.

Bowlio gemau cartref 2 image image