Cynhaliwyd Sioe Llanybydder yng Ngwesty’r Llew Du Llanybydder, ddydd Sadwrn, 22ain Awst, gan Bwyllgor ariannu gweithgareddau allanol y pentref. Braf oedd gweld y lle yn llawn yn fore, a’r swyddogion yn cael gwres eu traed yn rhoi popeth yn eu lle mewn amser!
Dyma ganlyniadau’r dydd:
Adran Cyffeithiau/Coginio: Elaenor Jones
Adran Gwaith Llaw: Maralyn Lambert
Adran Gwaith Coed: Huw Evans
Adran Arlunio: Sheila Smith
Adran y Plant: 6 oed a thano: Lois Williams, Heol y Gaer
7 oed a than 11: Dafydd Williams, Heol y gaer
Adran Flodau: Glyn Davies, Ffynnonbedr, Llambed
Adran Ffotograffiaeth: Zoe Nugent
Adran Ffrwythau: Bethan McMullen
Adran Llysiau: Bethan McMullen
Gwobr am y mwyaf o bwyntiau yn y Sioe: Bethan McMullen
Gwobr arbennig am yr eitem orau yn y Sioe: Bertie Davies am ei gennin godidog!
Basged hongian orau: Mr Eirwyn Jones, The willows
2ail Mr and Mrs Jones, Fronhaul
3ydd Mr and Mrs Gibby, Erwlon
Ar ôl rhannu’r gwobrau i enillwyr y dydd, cafwyd araith bwrpasol gan Pamela Burke, Cadeiryddes y pwyllgor, cyn i’r Cynghorydd Ieuan Davies werthu’r nwyddau a adwyd ar ôl gan y cystadleuwyr. Pwyllgor bach iawn sydd yn trefnu’r Sioe erbyn hyn, ac er mwyn cynnal Sioe lwyddianus o flwyddyn i flwyddyn, mae llawer o waith yn digwydd ganddynt, felly, maent yn galw ar bobol y pentref a’r ardal i ymuno gyda nhw ar y pwyllgor er mwyn cadw’r Sioe i fynd.