Sion Corn yn Llangybi!

gan Helen Pugh
Sion Corn yn Llangybi
Sion Corn yn Llangybi

Cafwyd diwrnod arbennig iawn yn Neuadd Goffa Llangybi efo ymweliad Sion Corn a the parti ar ddydd Sadwrn 12fed o Ragfyr.

Roedd bwrlwn yn neuadd y pentref a’r plant yn llawn cyffro.

Dechreuwyd efo te a rhai gemau, cyn i Sion Corn gyrraedd â’i sach yn llawn anrhegion.

Roedd 24 o blant hapus iawn yn gadael efo anrheg yr un.

Diolch i’r rhieni am eu rhoddion tuag at y te a diolch mawr i Sion Corn am alw.