Cyhoeddi Blwyddyn Newy’ radiobeca.cymru

Lowri Fron
gan Lowri Fron

Efallai y byddwch wedi clywed am rai o weithgareddau Radio Beca – y grŵp Facebook BeSyMlân (digwyddiadur ar-lein Cymraeg y gorllewin), y rhaglenni byw sbeshal o stiwdio pop-yp o bob rhan o dair sir y gorllewin gwrando ‘to, neu gyfryngau cymdeithasol Beca – ond efallai bod rhai o ddatblygiadau’r 18 mis diwethaf yn llai cyfarwydd i chi.

Fel y gwelwch – nid ‘gorsaf radio’ sydd am fod yn un o’r Cyfryngau yw Radio Beca – ond yn hytrach y nod yw bod yn gyfrwng i neud gwahaniaeth i gymdogaethau ar draws tair sir y gorllewin. Galluogi cymdeithas Gymraeg wledig y gorllewin i ddarlledu i gymdeithas Gymraeg wledig y gorllewin (a thu hwnt).

I grynhoi a dathlu 10 datblygiad cyffrous y misoedd diwethaf a symud ymlaen gyda’n gilydd tuag at y dyfodol, bydd

@radiobeca
@radiobeca

radiobeca.cymru yn cyhoeddi ein ‘Prosbectws’ ar gyfer 2017 yng nghanol dathliadau Hen Galan yng Ngelli Fawr, Cwm Gwaun (13 Ionawr, 7pm). Mae croeso i bawb ymuno â ni yn y noson hwyliog hon o ddathlu cefen gwlad.

Yna, cewch oll eich gwahodd i un o dri chyfarfod agored (BECA: Y Glwyd Nesa’ ar nos Fawrth 17 Ionawr, 8pm yng Nghlwb Rygbi Aberaeron). Gan mai ‘creu gyda’n gilydd’ yw hanfod radiobeca.cymru, dyna y byddwn ni’n ei wneud yn cyfarfod, wrth i ni geisio dwysáu ac ehangu’r gwaith o wneud gwahaniaeth yng nghefn gwlad y gorllewin. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi oll ar y noson hon.