Mae dyn busnes lleol Emyr Jones, TeifiForge, a’i wraig Eirian wedi cyflwyno siec o £13,500 i ddau achos pwysig iawn.
Mae adran Wroleg Ysbyty Glangwili a chynllun ManVan Tenovus wedi derbyn £6,750 yr un yn dilyn noson godi arian arbennig yn Llanbed a drefnwyd gan Emyr ac Eirian Jones.
Gwerthwyd dros 200 o docynnau i’r noson gyda grŵp Mike Doyle a gynhaliwyd yn neuadd Lloyd Thomas yn Llanbed. Drwy werthu tocynnau yn ogystal â raffl ac ocsiwn llwyddwyd i godi swm anhygoel o arian i achosion oedd yn agos iawn i galonnau’r ddau.
Meddai Eirian “Cafodd Emyr ddeiagnosis o gancr y prostrad dros 16 mis yn ôl a bu’n ymweld â chlinig Ysbyty Glangwili yn rheolaidd lle cafodd ofal arbennig. Yno cawsom wybod am gynllun ManVan Tenovus. Cawsom wybodaeth a chefnogaeth arbenigol a helpodd ni i benderfynu pa driniaeth fyddai orau i Emyr.
Roeddem eisiau cynnal digwyddiad codi arian i ddweud diolch am y gofal arbennig a dderbyniom gan Glangwili a Tenovus. Cawsom noson wych a hoffem ddiolch o galon i bawb waneth fynychu a chyfrannu tuag at y noson.”