Nos Fercher Rhagfyr 14eg, daeth rhai o drigolion Llanbed ynghyd am noson gymdeithasol, anffurfiol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gwrdd â Dr Jeremy Smith, Deon Cyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio.
Dros baned a mins pei, fe drafododd Jeremy rhai o brif ddatblygiadau’r Brifysgol yn Llanbed gan son am rai o’r rhaglenni newydd a chyffrous sy’n cael eu cyflwyno i’r cwricwlwm.
Gan ystyried rhai o bryderon dyngarol, amgylcheddol, cymdeithasol a gwleidyddol allweddol yr unfed ganrif ar hugain, mae’r Drindod Dewi Sant yn lansio rhaglenni gradd a fydd yn mynd i’r afael â’r heriau hyn, gan sicrhau bod gan ein myfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau priodol i gamu mewn i amrywiaeth o yrfaoedd.
Mae’r rhaglenni gradd arloesol yn y meysydd Datblygu Rhyngwladol, Materion Dyngarol a’r Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Economeg ac Ecoleg ac yn clymu mewn i themau sy’n greiddiol i’r Brifysgol, sef cynaliadwyedd a chytgord.
Soniodd hefyd am y modd y mae’r Brifysgol, yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod ei chwricwlwm a’i gweithgareddau yn ymateb i anghenion presennol a dyfodol ein cymdeithas. Yn wir, mae strategaeth glir iawn ar gyfer campws Llanbed sy’n dathlu ei enw da fel canolfan o ragoriaeth ar gyfer astudiaethau aml-ddiwylliannol ac aml-ffydd.
Aeth ymlaen i drafod sut y mae’r Brifysgol hefyd wedi datblygu ystod o raglenni a phartneriaethau gyda sefydliadau megis Coleg Schumacher a Sefydliad Aml-ddiwylliannol Addysgol Chin Kung sy’n arwain at gyfleoedd ardderchog i ddenu mwy o fyfyrwyr a gweithgareddau i’r campws. Mae hefyd wrth gwrs yn helpu i godi proffil Llanbed, nid yn unig o fewn y DU ond hefyd yn rhyngwladol.
Yn ddiweddar hefyd fe ailstrwythurwyd Cyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio ac fe drafododd Dr Smith y ffyrdd y mae’r strwythur newydd yn galluogi ymagwedd gydlynol at gynllunio a threfniant cyrsiau’r Brifysgol tra hefyd yn hyrwyddo diwylliant rhyng-ddisgyblaethol rhwng staff academaidd a myfyrwyr o fewn y Gyfadran. Mae’r cyfle i ymgysylltu â staff a myfyrwyr o ystod o ddisgyblaethau nid yn unig o fudd i’r unigolion hynny, ond hefyd i’r Brifysgol yn gyffredinol gan annog cydweithredu rhwng gwahanol bynciau a chyfadrannau – priodweddau sydd angen ar gyfer graddedigion y dyfodol a rhai sy’n sy’n ofynnol gan gyflogwyr.
Dyma’r noson gyntaf gymdeithasol o’i math ac edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau pellach yn y flwyddyn newydd.