Diwrnod Canoloesol teuluol cyntaf yn Llambed

gan Sian-Elin Davies

Ddydd Sadwrn diwethaf (Mawrth 25ain), fe wnaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddathlu’r Flwyddyn Newydd Ganoloesol drwy gynnal ei Diwrnod Canoloesol teuluol cyntaf yn Llambed.

Mynychodd dros 200 o bobl y digwyddiad llwyddiannus hwn a oedd yn cynnwys brwydrau wedi’u hail-greu; offeren canoloesol; perfformiadau o gerddoriaeth ganoloesol a darlleniadau o farddoniaeth ganoloesol.

Cafodd ymwelwyr y cyfle i roi cynnig ar amryw o grefftau a gemau canoloesol yn ogystal â phrofi cynhyrchiad theatr stryd arbennig o Robin Hood.

Yn ystod y dydd, cafodd pobl gyfle i glywed mwy am ystod o brosiectau ymchwil canoloesol y Brifysgol gan gynnwys Prosiect Ystrad Fflur; Cymru Fynachaidd; y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; y Comisiwn Brenhinol; Tystion Dinas Abertawe a Llong Casnewydd.

Roedd hefyd yn achlysur er mwyn i’r Brifysgol ddathlu ei henw da ar gyfer darparu rhaglenni Astudiaethau Canoloesol ac i gydnabod ei rôl bwysig ym myd addysgu hanes canoloesol.

Am wybodaeth bellach ynglyn ag unrhyw rai o’r rhaglenni Astudiaethau Canoloesol a gynigir yn Y Drindod Dewi Sant, cysylltwch â’r Athro Janet Burton drwy e-bostio j.burton@uwtsd.ac.uk