Merched ardal Clonc ar CD!

gan gwenan

‘RHANNU’R HEN GYFRINACHAU’
Lleisiau merched byd canu pop a gwerin Cymru 1965 – 1975

Yng nghefn gwlad Cymru, yn y trefi a’r dinasoedd, roedd ’na rywbeth yn y dŵr yng nghanol y 60au a merched ifanc yn darganfod eu llais a’u lle o fewn y byd adloniant poblogaidd – merched â chyfoeth traddodiad cerddorol eisteddfod, ysgol Sul, cyngerdd a noson lawen yn eu gwaed – yn mentro rhoi eu stamp unigryw eu hunain ar ganu Cymraeg gan ymuno yn y chwyldro cerddorol Cymreig…

Yn Llanbedr Pont Steffan ddiwedd y chwedegau, roedd canu’n llenwi bryd tair merch yn y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd y dref, a phan glywodd un o gyflwynwyr y BBC y tair yn perfformio mewn cyngerdd lleol, daeth gwahoddiad iddynt recordio ym Mhontardawe ar gyfer label Dryw.  Y Tlysau a ddewiswyd gan lawer led-led Cymru yn dilyn cais cenedlaethol am awgrymiadau am enw i’r grŵp, a mawr oedd y cyffro pan gyrhaeddodd y tair y stiwdio yn 1968 a threulio’r sesiwn yng nghwmni neb llai na’r canwr, y gitarydd a’r dewin o Solfa, Meic Stevens. 

Ychydig filltiroedd i ffwrdd, ym mhentref bach Silian, roedd Ann, Kitty a Susan, dwy chwaer a ffrind a fagwyd yn sŵn murmur yr afon Tawela, yn brysur iawn yn diddanu cynulleidfaoedd ymhell ac agos.  Roedd canu calypso’r chwedegau yn eu hudo ac ymhen dim roedd gan Tannau Tawela record ar label Cambrian.  

Dringodd y gân ‘Cariad’ i frig y siartiau pop yn ystod 1968, a’r grŵp? – Y Perlau, sef  Rosalind, Dawn a Llinos – tair geneth, eto o Lanbed, a gafodd eu cofleidio gan Gymru gyfan. I gyfeiliant organ a gitâr roedd asiad swynol eu lleisiau i’w glywed mewn nosweithiau llawen a chyngherddau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt, a hynny bron bob penwythnos.  Erbyn 1970, roedd Rosalind yn dod i’r amlwg fel cantores unigol.  Dyma Miss Asbri cyntaf Cymru a gyda rhyddhau ei record gyntaf ar label Cambrian yn 1970 roedd seren newydd yn ffurfafen canu cyfoes Cymru a’r ferch benfelen yn cychwyn ar daith a fyddai’n ei harwain i lwyfannau ym mhob cwr o Gymru, i stiwdios teledu Disc a Dawn ac i ganu, yn  Gymraeg, ar gyfres enwog y BBC ‘Opportunity Knocks’.

Mae’n amlwg mai serch oedd testun mwyaf poblogaidd y canu ar ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au, a chaneuon byrlymus a gobeithiol am gyfarfod llanc golygus wrth fynd am dro ar hyd hen lwybr y mynydd yr un mor boblogaidd â chaneuon am dor-calon a hiraeth am y llanc a aeth i ffwrdd….  O oedran ifanc, roedd Doreen Davies yn giamstar ar ysgrifennu caneuon serch, ac ar ei record gyntaf i label Cambrian yn 1969, a hithau’n dal yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberaeron, dangosodd ei doniau i’r eithaf a’i llais cwynfannus, apelgar yn taro tant newydd yn sicr.

Bellach mae modd gwrando eto ar y lleisiau hyn, a hynny ar CD! Ynghyd â grwpiau a chantorion amlwg eraill y cyfnod – Heather Jones, Helen Wyn, Y Melinwyr, Mari Griffith, Meinir Lloyd, Eirlys Parri, Evelyn Bridger, Y Pelydrau, Gwenann, Y Diliau, Eleri Llwyd, Sidan, Swyn, Ann Morris a Janet Humphreys, bydd y CD hwn yn ein tywys yn ôl i gyffro byd canu cyfoes Cymru’r 60au a’r 70au.

Wrth bori a chwilota yng nghrombil archif gerddorol y cyfnod, drwy dapiau llychlyd ar silffoedd stiwdio Sain, fesul cân, roedd ’na straeon a phrofiadau yn dod i’r amlwg.  Roedd ’na gyffro ac emosiwn a chryn dipyn o waith ditectif i’w wneud.  Mae gan bob un o’r merched hyn ei stori a’r caneuon yn aml yn lais profiad. 

Be sy’n clymu’r merched yma i gyd at ei gilydd? – I ni, gwir deimlad ac emosiwn, amrywiaeth gerddorol eu harddulliau cyfansoddi a pherfformio a’u gallu rhyfeddol i’n cyffwrdd drwy neges syml a didwyll.   Rhain oedd arwresau’r cyfnod ac yng nghanol y prysurdeb a’r emosiwn a’r gwaith caled roedd yr elfen bwysicaf un yn eu cynnal ymlaen – mwynhad.  Pam arall fyddech chi’n “canu yn rhywle bob penwythnos..”…

Dyma 20 o gyfrinachau sy’n ysu am gael eu rhannu unwaith eto…