Llifogydd Llanybydder

gan Kay Davies
Y Gwasanaeth Tân yn mynd o dŷ i dŷ yn Llanybydder. Llun gan Gary Jones.
Llifogydd Station Terrace, Llanybydder.      Llun gan Gary Jones.

Ar ôl y llifogydd gwaethaf i fwrw ein pentref ers 30 mlynedd, rhaid oedd dod at ein gilydd i geisio meddwl am ffordd i helpu’r teuluoedd sydd wedi cael ei effeithio.

Ein penderfyniad fel Pwyllgor Pentref Llanybydder yw creu bocs bwyd i bob teulu – bydd y bocs yn cynnwys bwyd fel reis, pasta, cawl ayyb, bwydydd fydd yn gallu rhoi help llaw i’r teuluoedd wrth iddynt dechrau adeiladu eu bywydau eto.

Er mwyn creu y bocsys yma, rhaid wrth gwrs cael arian, felly nos Sadwrn yma, 20fed Hydref, yng Nghwesty’r Cross Hands Llanybydder, trwy caredigrwydd Kevin a Vicky, bydd noson yng nghwmni’r gantores Emma Bennett.

Bydd y noson yn dechrau am 9yh, a bydd pris mynediad yn £3 y pen.  Bydd raffl yn cael ei werthu yn ystod y noson, a bydd ocsiwn arbennig. Wrth i mi ‘sgwenu’r erthygl yma, rydyn ni’n derbyn mwy o roddion wrth fusnesau lleol ar gyfer yr ocsiwn a’r raffl, ac mae ein diolch ni fel pwyllgor a phentref yn fawr iawn iddynt.

Yn derbyn rhoddion gan archfarchnad lleol.
Yn derbyn rhoddion gan archfarchnad lleol.

Yn ystod y diwrnodau diwethaf mae aelodau o’r pwyllgor wedi bod yn casglu bwyd oddi wrth archfarchnadoedd lleol.  Maent i gyd wedi bod mor hael, ac rydym yn diolch iddynt o waelod calon.

Os ydych yn gallu helpu mewn unrhyw ffordd, plis cysylltwch â ni ar dudalen y Pwyllgor sef ‘Llanybydder Village Committee’ neu gyrrwch neges i fi ar facebook, Kay Davies.

Mae’r Hen Ysgol yn cael ei defnyddio fel man gollwng os ydych yn gallu rhoi dodrefn, peiriant golchi ayyb i’r teuluoedd sydd wedi colli pob dim – mae’r wybodaeth am hyn ar ein tudalen Facebook, trwy law Amanda Davies.

Diolch i bawb sydd wedi helpu pentref Llanybydder mewn unrhyw ffordd dros y diwrnodau diwethaf.