Pumed Gemau Gymanwlad i Anwen

gan Alis Butten

Cafodd Anwen Butten o Glwb Bowlio Llanbed ei dewis i chwarae yn y Gemau Gymanwlad am y tro cyntaf yn Manceinion 2002, lle wnaeth hi ennill y fedal efydd yn y parau. Mewn cyhoeddiad gan bwrdd Chwaraeon Cymru daeth y newyddion ei bod hi wedi cael ei dewis i’r Gemau am y pumed tro.

Fe fydd y Gemau Gymanwlad yn cael eu cynnal ar y ‘Gold Coast’ yn Awstralia ym mis Ebrill 2018.

Ar ôl cystadlu yn Manceinion 2002, Melbourne 2006, Delhi 2010 a Glasgow yn 2014 mae Anwen wedi ennill dau fedal efydd. Bydd cyfle eto eleni i ennill gyda’r sgwad o bump menyw fydd yn cystadlu:

Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan

Emma Woodcock, Caerdydd

Laura Daniels, Brynhyfryd

Caroline Taylor, Berriew

Jess Sims, Llandrindod

Pob lwc yn y Gemau Gymanwlad, Gold Coast 2018 Anwen!

Tim, Hari, Alis & Anwen : Manceinion 2002
Delhi 2010