Mae ymdrechion gwirfoddol dau aelod blaenllaw o’r gymuned fusnes yn Llanbed yn ystod yr argyfwng Covid wedi eu cydnabod mewn ffordd unigryw – gyda llyfr newydd yn cael eu cyflwyno iddyn nhw, fel arwydd o ddiolch.
Mae cyfrol ‘Ar Grwydir Eto’, gan y Parch Goronwy Evans, yn gyflwynedig i Delyth Jones, Y Pantri, ac Eifion Williams, sy’ wedi ymddeol yn ddiweddar o fusnes deuluol J. H. Williams a’i Feibion.
Mae’r llyfr yn olrhain hanes rhai o grwydriaid enwocaf Cymru, ac mae Delyth ac Eifion newydd dderbyn y ddau gopi cyntaf wrth yr awdur.
Yn ôl Goronwy, mae ymdrechion di-flino y ddau dros y misoedd diwethaf yn llawn haeddu cael eu cydnabod.
“Mae Delyth ac Eifion yn deilwng o bob canmoliaeth a diolch,” meddai.
“Mae’r ddau wedi dangos cymaint o garedigrwydd i bobl y cylch dros yr wyth neu naw mis diwetha’. Er fod ‘Y Pantri’ wedi bod ar gau, mae Delyth wedi bod yn brysur yn coginio a dosbarthu bwyd i gymaint o bobl, ac mae Eifion wedi bod wrthi fflat-owt yn siopa i’r rheiny sy’ ddim wedi bod yn gallu mynd mas eu hunain. Ac mae’r ddau ohonyn nhw wedi gwneud hyn i gyd yn hollol ddi-dâl.
“Mae’r gymuned yn gwerthfawrogi eu gwasanaeth nhw yn fawr, a dyna pam wnes i gyflwyno’r llyfr iddyn nhw. Rwy’ wedi sôn ar ddechrau’r gyfrol bod gweithredoedd o garedigrwydd yn harddu bywyd, ac mae’r ddau yma wedi gwneud hynny’n sicr. Does dim byd wedi bod yn ormod iddyn nhw.”
Mae Goronwy’n dweud bod yr ymateb i’r llyfr – ei ail gyfrol ar grwydriaid – wedi bod yn wych cyn belled.
“Rwy’n credu fod pobl wrth eu bodd yn edrych nôl i gyfnod mewn hanes, yn enwedig ar adeg anodd fel hyn. Ond yr hyn sy’ wedi fy nghalonogi i hefyd yw bod cynifer o bobl iau wedi dweud wrtha i bod hi’n ddiddorol darllen am y cymeriadau hynod yma oedd yn wynebau cyfarwydd yn ein cymunedau ni yn y gorffennol.”