Dyma gyfrol gyntaf o gerddi Geraint Roberts. O atgofion plentyn i deithiau tramor, o ddigwyddiadau allweddol i gyfarchion teuluol a chyfeillion, dyma gyfrol sy’n mynd â’r darllenydd o’i fro enedigiol, ar draws Cymru a thu hwnt. Ceir ambell i gerdd rydd, nifer o gerddi caeth a sawl dilyniant o gerddi sy’n canu o’r galon. Mae’n gynganeddwr heb ei ail, a’i lais aeddfed fel bardd yn fyfyriol ond hefyd yn obeithiol.
Ei fagwraeth yn Rhydgaled a ysgogodd rhai o’r cerddi a darlun olew o Ysgol Rhydgaled a baentiwyd yn 1969 gan ei frawd, Garrod, sydd ar glawr y gyfrol. Bu am flynyddoedd yn athro ac yn brifathro a nawr mae bellach wedi ymddeol ond yn hynod weithgar gydag Ysgol Farddol Caerfyddin, gan annog eraill i ddysgu’r gynghanedd. Bu hefyd yn fardd y mis, BBC Radio Cymru, ym mis Ebrill 2020.
Mae lleoedd a digwyddiadau yn cael lle amlwg yn ei gerddi ac mae’r gyfrol hon yn mynd â’r darllenydd o’i fro enedigol, ar draws Cymru a thramor. Wedi gyrfa lwyddiannus ym myd addysg mae’n cydnabod ei fod wedi bod yn ddigon ffodus i gael ‘desg lydan’.
Ganwyd a magwyd Geraint Roberts yn Rhydgaled, ger Aberystwyth cyn mynd i’r Brifysgol yn Abertawe lle graddiodd mewn Daearyddiaeth. Bu’n dysgu ei bwnc yng Nghwm Gwendraeth cyn cael ei benodi’n ddirprwy bennaeth yn Llanbedr Pont Steffan ac yna’n benneth Ysgol y Strade, Llanelli. Bu hefyd yn gweithio fel pennaeth ymgynghorol gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin. Trwy gydol ei yrfa bu’n byw yn ardal Caerfyrddin ac erbyn hyn mae wedi ymsefydlu yng Nghwmffrwd. Sefydlodd Ysgol Farddol Caerfyrddin o dan arweiniad Tudur Dylan Jones ac ysbrydoliaeth Mererid Hopwood.
Gellir darllen detholiad o gerddi’r gyfrol ar wefan Barddas.
Gwahoddir chi i ymuno yn lansiad Desg Lydan gan Geraint Roberts yng nghwmni Tudur Dylan, Aneirin Karadog, Mererid Hopwood a Karen Owen mewn fideo ar youtube.
Mwynhewch!
Desg Lydan
£7.95
Cyhoeddiadau Barddas