Iaith Oleulawn gan Dafydd Johnston

Academydd o Lanbed yn cyhoeddi llyfr am eirfa hynod a chyfoethog Dafydd ap Gwilym.

gan Gwasg Prifysgol Cymru

Dyma’r astudiaeth gyflawn gyntaf o eirfa hynod a chyfoethog Dafydd ap Gwilym, bardd enwocaf y Gymraeg.

Mae’r llyfr yn dangos sut y creodd Dafydd ei farddoniaeth amlweddog trwy gyfuno ieithwedd hen a newydd, llenyddol a llafar, brodorol ac estron.

Trafodir y geiriau a gofnodwyd am y tro olaf yn ei waith, a’r nifer fawr a welir am y tro cyntaf, y benthyciadau o ieithoedd eraill, ei ddulliau o ffurfio geiriau cyfansawdd, a geirfa arbenigol amryw feysydd fel crefydd, y gyfraith, masnach a’r meddwl dynol.

Mae’n cynnig ffyrdd newydd o werthfawrogi cerddi Dafydd ap Gwilym trwy drafod ystyron a naws geiriau’n fanwl. Mae llawer o’r geiriau a drafodir yn y llyfr yn gyffredin hyd heddiw, ac mae’r dadansoddiadau’n gymorth i ddeall datblygiad yr iaith a’r modd y mae geiriau’n cael eu ffurfio.

Bydd y gyfrol felly yn apelio i’r darllenydd cyffredin, llengar sy’n hoff o farddoniaeth, yn ogystal â myfyrwyr ac academyddion Cymraeg.

Yr Athro Dafydd Johnston sy’n byw yn Llanbed, yw Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Gellir gwylio yr awdur yn trafod y gyfrol gyda Dei Tomos, yn rhan o Sesiynau’r Gweisg Amgen Eisteddfod 2020 yma

‘Iaith Oleulawn’: Geirfa Dafydd ap Gwilym – Dafydd Johnston – CM – 9781786835673 – £24.99

Mynnwch gopi o’r gyfrol o’ch siop lyfrau leol! Am ragor o wybodaeth, ewch at wefan Cyngor Llyfrau Cymru