Mam o Lanllwni yn serennu yng nghyfres deledu FFIT Cymru

gan Tomos Hughes

Mae Ruth Evans o Lanllwni ymysg y pum person sydd wedi eu dewis fel arweinwyr ar gyfer y gyfres deledu FFIT Cymru eleni.

Mae Ruth, sydd yn 45 oed, yn gweithio fel Swyddog Gwirfoddoli i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddoli Ceredigion (CAVO). Mae ganddi dair merch, Carys a Nia, efeilliaid sy’n 18 oed, a Megan, sy’n 15 oed.

Wedi gwneud cais i fod yn rhan o’r gyfres ffitrwydd ac iechyd poblogaidd ar S4C, roedd Ruth yn llwyddiannus ar ôl mynd drwy’r broses gyfweliadau a phrofion ffitrwydd, a gynhaliwyd yng Nghaernarfon.

Y nod i’r arweinwyr yw trawsnewid eu hiechyd dros gyfnod o chwe wythnos, gan geisio colli gymaint o bwysau drwy wneud ymarfer corff a dilyn cynlluniau bwyta iachus. Mi fydd y pum arweinydd yn derbyn help llaw gan dîm o dri arbenigwr: y seicolegydd Dr Ioan Rees, y dietegydd Sioned Quirke a’r hyfforddwr personol, Rae Carpenter.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi gorfodi newidiadau i’r gyfres eleni, ond gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, bydd yr arweinwyr a’u teuluoedd yn ffilmio eu hunain wrth iddyn nhw hunan ynysu gartref.

Gobaith Ruth yw cael llun o’i hun y byddai hi’n hapus i’w roi ar y wal, gan nad oes ganddi lun o’i hun a’i merched ar waliau’r tŷ ar hyn o bryd.

Gyda’i chwaer gefnogol, Laura, yn annog Ruth i ymuno â gwefannau ‘dating’, mae Ruth yn awyddus i gael llun da er mwyn defnyddio fel llun proffil.

Dywedodd Ruth: “Sai’n mynd i roi llun ar y wal yn edrych fel hyn – mae’n afiach. Byddwn i ddim yn gwneud hyn i ffeindio dyn, fi’n gwneud hyn i fi. Ond byddwn i’n teimlo bach mwy cyfforddus yn rhoi llun proffil ar un o’r sites yma ar ôl colli bach o bwyse.

“Rwy’n barod ac yn edrych ymlaen nawr. Mae fe’n digwydd.”

Bydd holl ymarferion ffitrwydd a bwyd Ruth ar gael ar wefan S4C, www.s4c.cymru/ffitcymru a chyfrif Youtube FFIT Cymru, ble fydd pawb yn gallu dilyn yr un daith a Ruth gyda ryseitiau a fideos dyddiol.

Bydd FFIT Cymru yn cael ei ddangos am 9.00yh bob nos Fawrth, ac ar gael i’w wylio ar alw ar S4C Clic.